08 Ebr 2020

Dymuna Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys dynnu eich sylw at ganllawiau diweddaraf y Llywodraeth, sy’n rhoi cyngor ynghylch sut i ofalu am eich lles ac iechyd meddwl yn ystod y coronafeirws (COVID-19). Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y byddwch yn teimlo’n ddiflas, rhwystredig neu unig. Efallai y byddwch yn teimlo’n isel, yn ofidus neu’n orbryderus hefyd, neu’n poeni am eich iechyd neu iechyd rhywun sy’n agos atoch. Mae pawb yn ymateb yn wahanol i ddigwyddiadau ac mae newidiadau yn y ffordd yr ydym yn meddwl, teimlo ac ymddwyn yn amrywio rhwng gwahanol bobl a dros amser. Mae’n bwysig eich bod yn gofalu am eich meddwl yn ogystal â’ch corff ac yn cael cymorth pellach os ydych ei angen. Mae canllawiau ar gyfer cefnogi lles ac iechyd meddwl plant a phobl ifainc hefyd ar gael: https://www.gov.uk/government/publications/covid-19-guidance-on-supporting-children-and-young-peoples-mental-health-and-wellbeing. Am ganllawiau ehangach ynglŷn â sut i warchod eich hun ac eraill, a chamau i’w cymryd os ydych chi’n credu eich bod wedi dal y feirws: https://www.gov.uk/coronavirus. Bydd y canllawiau hyn yn cael eu diweddaru wrth i’r sefyllfa newid, a gellir cael mynediad atynt drwy’r hyperddolen canlynol: https://www.gov.uk/government/publications/covid-19-guidance-for-the-public-on-mental-health-and-wellbeing/guidance-for-the-public-on-the-mental-health-and-wellbeing-aspects-of-coronavirus-covid-19