02 Ebr 2014

Bydd dros 20 menter yn elwa o gynllun grantiau £76,000 wedi’i drefnu gan Christopher Salmon, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Maent yn cynnwys menter digartrefedd yng Ngheredigion sy’n derbyn £1,120, a chlwb chwaraeon yn Sir Benfro sy’n derbyn £4,500 er mwyn helpu i wneud cyfleusterau’n ddiogel rhag difrod troseddol.

Mae mentrau eraill yn cynnwys cynllun ym Mhowys sy’n derbyn £2,500 er mwyn mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol sy’n arwain pobl i’r llys, a rhaglen weithgareddau ar gyfer pobl ifainc yn Sir Gaerfyrddin, sy’n derbyn £5,000.

Cynigodd yr ail rownd o gymorth gan Gronfa’r Comisiynydd grantiau o hyd at £5,000 ar gyfer elusennau, sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol er mwyn datblygu syniadau sydd ag effaith gadarnhaol ar yr ardal maent yn ei gwasanaethu.

Mae Mr Salmon yn gobeithio y bydd y cynllun yn helpu i wella bywydau pobl ifainc ledled y rhanbarth. Mae’r prosiect yn adlewyrchu – mewn rhyw ffordd – Cynllun Heddlu a Throseddu 2013-18 Mr Salmon ar gyfer Dyfed-Powys. Gwobrwywyd rownd gyntaf y grantiau ym mis Awst.

Dywedodd y Comisiynydd: “Rwy’n diolch i bawb a weithiodd mor galed ar eu cyflwyniadau i ail rownd grantiau Cronfa’r Comisiynydd.

“Rwy’n hynod falch ein bod ni wedi medru cynnig grantiau o bron i £76,406.90. Bydd yr arian yn cael ei rannu ar draws y rhanbarth er mwyn helpu i wella bywydau pobl yn ein cymunedau.

“Rwy’n llongyfarch y rhai sy’n gysylltiedig â’r ceisiadau llwyddiannus; roedd nifer ac ansawdd y ceisiadau’n uchel. Yn wir, denodd y rownd hon geisiadau a ddaeth i gyfanswm o dros £200,000.”

Mae Mr Salmon yn credu bod gan bawb ran i’w chwarae o ran gwneud cymdogaethau’n fwy diogel; mae cannoedd o unigolion a sefydliadau eisoes yn gwirfoddoli’n frwd neu’n gweithio’n galed er mwyn helpu’r broses hon.

Mae Cronfa’r Comisiynydd yn darparu cymorth pellach. Ariennir y gronfa gan elw troseddau a roddir i’r heddlu yn dilyn gwerthu eiddo y daethpwyd o hyd iddo nas hawliwyd.

Nid y cyhoedd na sefydliadau a enwebodd y prosiectau cymunedol, ond yn hytrach, swyddogion rheng flaen a staff Heddlu Dyfed-Powys. Fe’u cymeradwywyd gan uwch swyddogion a asesodd y ceisiadau yn erbyn meini prawf megis yr angen ar gyfer y prosiect a nifer y rhai a fyddai’n elwa.

Disgwylir y bydd trydedd rownd o geisiadau ar gyfer Cronfa’r Comisiynydd yn agor yn ystod yr haf.

diwedd

ASTUDIAETHAU ACHOS: CEISIADAU LLWYDDIANNUS

Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys

Stop it Now! Cymru £4,768

Bydd y prosiect hwn, ynghyd â Sefydliad  Lucy Faithfull, yn cyflwyno 16 sesiwn Parents Protect! ledled Dyfed-Powys. Maent yn helpu rhieni a gofalwyr i ddiogelu plant rhag ecsbloetiaeth a niwed rhywiol. Maent yn tynnu sylw at arwyddion rhybudd, ac yn canolbwyntio ar sut i atal cam-drin.

Gweithredu Gorllewin Cymru Dros Iechyd Meddwl £3,860

Bydd yr arian yn helpu i ddatblygu rhaglen therapi syrffio a leolir yng Ngheredigion ar gyfer helpu cyn-filwyr a’u teuluoedd sydd wedi dod - neu a allai ddod - i gysylltiad â system cyfiawnder troseddol Dyfed-Powys. Mae’n mynd i’r afael â materion sy’n gwneud iddynt droseddu ac yn dylanwadu ar eu ffordd o feddwl.

Ceredigion a Phowys

Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) £5,000

Bydd yr arian hwn yn caniatáu i sticeri â chyfeirnodau grid gael eu hargraffu a’u gosod ar arwyddion ffyrdd ledled Ceredigion a Phowys. Bydd modurwyr sy’n galw’r gwasanaethau brys yn eu defnyddio i nodi eu lleoliad. Treialodd y Grŵp Gweithredu Beiciau Modur y prosiect ym Mhowys.

Sir Gaerfyrddin

Gwasanaethau Cam-drin Domestig Caerfyrddin £4,938.12

Bydd yr arian hwn yn ariannu Pecyn Adfer Cam-drin Domestig ar gyfer wyth menyw dros 13 wythnos. Cwrs hyfforddi yw’r pecyn sy’n annog strategaethau ffordd o fyw ar gyfer symud ymlaen o berthnasau camdriniol. Bydd yr arian hefyd yn helpu i gefnogi dynion sydd wedi dioddef cam-drin domestig.

Fforwm Cam-drin Domestig Sir Gaerfyrddin £2,418.32

Bydd yr arian yn cyfrannu tuag at wasanaeth Cynghorydd Annibynnol Trais Domestig Sir Gaerfyrddin sy’n blaenoriaethu diogelwch y dioddefydd a phlant. Yr heddlu sy’n gwneud y rhan fwyaf o gyfeiriadau, ac mae gwaith yn cynnwys cefnogi dioddefwyr ar ddiwrnod achos llys.

Cyfle i Dyfu £4,994

Mae Cyfle i Dyfu, a leolir yn Llanelli, yn helpu’r rhai sydd â hanes o gam-drin sylweddau a throseddolrwydd i atgyfannu â’u cymunedau a dychwelyd i’r farchnad lafur. Bydd yr arian yn helpu i ddatblygu ymhellach sgiliau’r rhai a gefnogir ar draws Sir Gaerfyrddin.

Dr M'z £5,000

Bydd y grant hwn yn cyfrannu at gostau rhedeg Dr M’z yng Nghaerfyrddin, sef prosiect gwirfoddol llawn amser sy’n rhoi lle diogel i bobl ifainc o 11-25 oed gwrdd, ac sy’n gyfleuster siop-un-stop. Mae’n anelu i fod yn addysgiadol a chyffrous.

Clwb Canŵ Rhwyfwyr Llandysul £5,000

Bydd y grant hwn yn prynu offer ar gyfer helpu pobl ifainc i fwynhau gweithgareddau awyr agored. Mae Rhwyfwyr Llandysul yn cynnal diwrnodau gweithgareddau ac yn gweithio gydag uned cyfeirio disgyblion yn Aberaeron ynghyd â grwpiau eraill. Mae gweithgareddau’n cynnwys beicio mynydd, dringo, caiacio, rafftio dŵr gwyn, cyfeiriannu ac arforgampau.

Pwyllgor Hamdden Parc Puw £4,200

Bydd parc sglefrio ym Mharc Puw, Drefach Felindre, yn cael ei  wella gyda’r arian hwn, gyda chynllun gwell a goleuadau gwell. Bydd hyn yn arwain at fwy o ddefnydd yn ystod yr hwyr gan sglefrfyrddwyr, a llai o berygl o ymddygiad gwrthgymdeithasol megis defnyddio cyffuriau a fandaliaeth.

Ceredigion

Fforwm Ieuenctid Penparcau £3,800

Mae’r corff hwn yn cael ei sefydlu gan Fforwm Cymunedol Penparcau ar gyfer ymgysylltu â phobl ifainc a datblygu prosiectau a all helpu’r gymuned. Un o gyfrifoldebau’r fforwm yw rhoi cyllid i grwpiau cymunedol. Bydd y grant hwn yn helpu’r broses honno.

Y Wallich £1,119.36

Bydd y grant hwn yn darparu lloches pob tywydd ar gyfer cleientiaid sy’n agored i niwed ac eraill ym mhrosiect llety dros dro Aberystwyth, Tŷ Nesaf. Bydd yn annog gweithgareddau allanol cathartig penodol megis garddio. Mae’r Wallich yn anelu i atal aildroseddu ymysg y digartref.

Ysgol Bro Pedr £1,320

Mae Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol hon yn Llanbedr Pont Steffan yn bwriadu creu trac beic â diben addysgiadol ac adloniadol. Bydd yr arian yn helpu i greu’r trac, a fydd yn cynnwys neidiau a rhwystrau. Syniad ydoedd gan y prif fachgen, Dewi Uridge, a bydd yn cael ei ddefnyddio gan yr ysgol a’r gymuned ehangach.

 

Sir Benfro

Clwb Pêl Droed Boncath £3,331

Mae Clwb Pêl Droed Boncath yn darparu gweithgarwch ieuenctid i’w gymuned leol. Mae ganddo bum tîm cynghrair o raddau dan 8 i dan 16. Mae gan y clwb 90 aelod, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn dod o Foncath, Crymych a Thegryn. Mae’n bwriadu prynu offer a chitiau gyda’r grant hwn.

Ffrindiau’r Parc Coffa, Doc Penfro £5,000

Bydd yr arian hwn yn cyfrannu at ddatblygu parc sglefrio ar gyfer pobl ifainc mewn amgylchedd diogel i ffwrdd o dai preswyl. Bydd y parc yn helpu i ddargyfeirio rhai pobl ifainc rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol posibl.

Ysgol Gynradd Y Gelli Aur £3,250

Bydd yr arian yn cynnig cyfle i ddisgyblion Ysgol Gynradd Y Gelli Aur, Penfro, ymweld ag ardaloedd eraill trefol a gwledig yn Sir Benfro. Bydd y gweithgaredd yn addysgiadol ac yn helpu i ddargyfeirio rhai pobl ifainc rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Clwb Chwaraeon Saundersfoot £4,500

Bydd yr arian hwn yn helpu Clwb Chwaraeon Saundersfoot i osod ffens ddiogel o amgylch rhan o’i dir, adnewyddu’r ystafelloedd newid, a’u diogelu. Y nod yw lleihau’r perygl o danau bwriadol, difrod troseddol a lladrad.

Prosiect Ieuenctid Tanyard £4,291.50

Bydd yr arian yn helpu’r prosiect hwn, a leolir ym Mhenfro, i gynnal sesiynau galw-heibio ar gyfer pobl ifainc gyda’r hwyr. Mae gweithgareddau’n cynnwys celf a chrefft, chwaraeon a gemau, coginio, sgiliau bywyd, cyngor, TGCh, ymlacio a phwyllgor ieuenctid.

Powys

Cyngor Canolbarth Cymru £2,501.60

Bydd y grant hwn yn caniatáu Cyngor Canolbarth Cymru, a leolir ym Machynlleth, i barhau â’i gyfranogiad mewn menter datrys problemau sy’n mynd i’r afael â phroblemau gwaelodol – megis camddefnyddio sylweddau, materion iechyd meddwl a dyled – sy’n arwain at unigolion yn ymddangos mewn Llysoedd Ynadon.

Pwyllgor Rheoli Canolfan Gymunedol Trefyclo £2,400

Mae’r pwyllogr yn bwriadu cynnal gweithgareddau a gweithdai rheolaidd yn y ganolfan gymunedol – gan gynnwys dawnsio stryd, ffotograffiaeth, celf a chrefft, drama a choginio - ar gyfer plant o 8-14 oed. Bydd y prosiect yn gweithio tuag at fod yn hunangynhaliol gyda chymorth pobl ifainc.

Tîm Dan 12 Clwb Rygbi Llanidloes £600

Bydd yr arian yn helpu i brynu cit newydd ar gyfer tîm sydd â nifer o chwaraewyr o deuluoedd cymdeithasol ddifreintiedig. Mae’r clwb yn eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgaredd sy’n cadw’u diddordeb a’u sylw, gan eu cyfeirio i ffwrdd o bosibiliadau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Grŵp Rhyddid Gwasanaeth Ieuenctid Powys £4,115

Bydd yr arian yn helpu i greu prosiect sy’n caniatáu i bobl LHDTC (lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, cwestiynu) hyrwyddo sut i ddelio â bwlio homoffobig a sut i gynyddu riportio troseddau casineb. Bydd yn helpu i gyflwyno prosiect ffilm, deunydd hyrwyddo a gweithdy.

Cyfanswm y cyllid a roddwyd £76,406.90