08 Rhag 2020

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gyllid yr heddlu a blaenoriaethau plismona, gan roi cyfle i’r cyhoedd ddylanwadu ar flaenoriaethau plismona pwysig.

Dau o brif gyfrifoldebau’r Comisiynydd yw gosod y blaenoriaethau plismona ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys a gosod y gyllideb flynyddol ar gyfer yr heddlu, ynghyd â lefel y praesept heddlu – y swm yr ydych yn talu am blismona yn eich treth gyngor.

Wrth lansio’r ymgynghoriad, dywedodd Dafydd Llywelyn: “Ar hyn o bryd, rwy’n edrych ymlaen at 2021/22 o ran blaenoriaethau plismona a chyllideb flynyddol a phraesept yr heddlu. Fel eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu, mae’n bwysig fy mod i’n medru cynrychioli ein cymunedau wrth wneud penderfyniadau. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, rwyf angen clywed wrthych chi; preswylwyr a pherchnogion busnes ledled yr ardal heddlu. Gan hynny, rwyf wedi datblygu arolwg byr ar-lein er mwyn ichi rannu eich barn yn hawdd.”

Yn ystod yr arolwg, mae’r Comisiynydd yn gofyn ichi ystyried cwestiynau megis:

Yn eich barn chi, fel sefydliad, beth ddylai Heddlu Dyfed-Powys flaenoriaethu?

Pa fath o droseddau y mae angen mynd i’r afael arnynt fwyaf yn ardal Dyfed-Powys?

A fyddech chi’n barod i dalu mwy er mwyn cefnogi plismona lleol?

Medrwch gwblhau’r arolwg drwy glicio ar y dolenni canlynol:

Arolwg Cymraeg - https://www.surveymonkey.com/r/9HRHLM6

Arolwg Saesneg - https://www.surveymonkey.com/r/9H2Y3DB

Fel arall, anfonwch e-bost at OPCC.Communication@dyfed-powys.pnn.police.uk neu galwch swyddfa’r Comisiynydd ar 01267 226440 er mwyn gofyn am gopi papur o’r adolygiad.

Ychwanega Dafydd Llywelyn: “Rwy’n annog cymunedau ardal Dyfed-Powys i leisio eich barn ynghylch y materion pwysig hyn er mwyn sicrhau ein bod ni, fel gwasanaeth heddlu, yn medru parhau i ddiogelu ein cymunedau â’r safon gwasanaeth uchaf sydd ar gael.”

Mae’r arolwg yn agor ddydd Llun 7 Rhagfyr 2020, ac yn dod i ben ddydd Sul 3 Ionawr 2021.