12 Medi 2019

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, wedi mynegi ei ddyhead am y cynnydd yn nifer y swyddogion heddlu er mwyn gwir adlewyrchu a chefnogi’r cymunedau y byddant yn eu gwasanaethu.

Mae’r Prif Weinidog, Boris Johnson, wedi cyhoeddi y bydd 20,000 o swyddogion heddlu newydd yn cael eu recriwtio dros y tair blynedd nesaf. 

Nid yw nifer y swyddogion newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro wedi ei gyhoeddi eto, ond mae Dafydd Llywelyn eisoes yn glir iawn am yr hyn y mae’n disgwyl o’r cynnydd yn nifer y swyddogion.

 Mae Mr Llywelyn eisiau i swyddogion gael eu recriwtio o fewn yr ardal heddlu, lle bynnag y bo modd, er mwyn adlewyrchu’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, a chael eu hanfon i lefydd lle mae’r galw mwyaf am swyddogion heddlu. Byddai hynny’n cynnwys y rheng flaen a rolau arbenigol.

 Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn: “Wrth i ni aros am gyhoeddiad y Llywodraeth Ganolog ynghylch nifer y swyddogion y bydd modd i ni recriwtio yn Nyfed-Powys, rwy’n defnyddio’r amser i drafod ble fyddai’r recriwtiaid newydd o’r budd mwyaf ar gyfer cyflawni cymunedau diogel, sicr a chadarn, gyda’r Prif Gwnstabl Mark Collins.

 “Mae plismona, fel ein cymunedau, wedi newid dros y blynyddoedd, felly mae angen ystyried yn ofalus ble fyddai recriwtiaid newydd yn y sefyllfa orau i gael yr effaith fwyaf ar wneud ein cymunedau’n fwy diogel. Mae’n rhaid i ni edrych ar ofynion plismona a sicrhau ein bod ni’n cynnwys rolau arbenigol a fydd yn helpu i atal troseddau, yn ogystal â hybu’r rheng flaen i ymateb a chefnogi cymunedau wrth i ddigwyddiadau ddigwydd.

 “Hoffwn weld cwnstabl heddlu a thîm penodedig yng nghanol pob tref hefyd, fel sydd yn Llanelli. Byddai hyn yn cyd-fynd yn dwt â’r isadeiledd teledu cylch cyfyng newydd a gomisiynwyd gennyf.

 “Byddaf hefyd yn gweithio i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn gwneud pob ymdrech i recriwtio o’n cymunedau amrywiol fel bod cyfansoddiad yr heddlu’n adlewyrchiad cywir o’n cymdeithas.

 “Rwy’n parhau i ymgysylltu â’r gymuned er mwyn deall eu barn ynglŷn â’r mater hwn hefyd.”

 

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn bwriadu hysbysebu am swyddogion heddlu ym mis Ionawr 2020.

 

LLUN: SCCH Scott Jones (aelod o dîm Canol Tref Llanelli) a Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn lleoliad un o’r camerâu teledu cylch cyfyng newydd yn Llanelli.