10 Ebr 2018

O 1 Ebrill 2018, bydd dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys yn derbyn cymorth gan y gwasanaeth ar gyfer dioddefwyr a thystion, Goleudy.

Mae Goleudy’n cael ei gomisiynu gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ac mae’n rhoi cymorth i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, hyd yn oed os nad ydynt wedi rhoi gwybod i’r heddlu amdano. 

Meddai: “Mae Goleudy’n cynnig gwasanaeth cyfrinachol yn rhad ac am ddim i ddioddefwyr, teuluoedd a thystion yn ardal Dyfed-Powys.

“Cynigir cymorth emosiynol, ymarferol a phersonol er mwyn helpu’r bobl hyn i oroesi trosedd a’u gwneud nhw’n gryfach.

“Mae modd cael mynediad at y gwasanaethau hyn hyd yn oed os nad yw’r heddlu wedi cael gwybod am y digwyddiad.

“Mae’n bwysig fod yr un lefel cymorth ar gael i ddioddefwyr trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a bydd hyn yn cael ei gyflawni yn awr.

“Bydd arbenigwyr hyfforddedig Goleudy’n cynnig proses llyfn i unigolion sydd ag amgylchiadau arbennig sy’n golygu y gallant fod yn ddioddefydd trosedd ac yn ddioddefydd ymddygiad gwrthgymdeithasol bob yn ail.”

Mae’r gwasanaeth, sydd wedi’i gyd-leoli gyda’r heddlu, wedi cael ei gydnabod fel arfer da yn yr adroddiad diweddaraf gan Arolygiaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (AHEMGTA).

Dywedodd Mark Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys: “Mae tua 10% o’n galwadau am wasanaeth yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, felly mae’n rhaid i ni wneud mwy er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

“Mae rhan o hynny’n ymwneud â sicrhau bod y cymorth cywir yn bodoli ar gyfer dioddefwyr.

 “Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol aflonyddu ar fywydau pobl ac achosi llawn cymaint o ofid â throsedd, ac mae’r dioddefwyr hyn yn haeddu llawn cymaint o gymorth ag unrhyw ddioddefydd arall.”

Mae’r ymagwedd newydd wedi gweld Heddlu Dyfed-Powys yn buddsoddi mewn hyfforddi staff a chodi ymwybyddiaeth er mwyn rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol. Maen nhw wedi cwrdd ag Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Tai, Byrddau Iechyd a’r Gwasanaeth Tân ac Achub gyda’r bwriad o gydweithio’n fwy effeithiol drwy rannu gwybodaeth ac adnoddau er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

Bydd y gwaith partneriaeth yn diogelu ac yn cefnogi unigolion a’u heiddo, yn lleihau erledigaeth fynych, ac yn adnabod troseddwyr, tueddiadau ac achosion posibl. Yna, byddant yn medru ystyried rhoi’r dargyfeiriadau, ymyriadau, erlyniadau a gorchmynion ataliol mwyaf priodol mewn grym gyda’r nod o leihau effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar unigolion a chymunedau.

Mae Goleudy’n cynnig cymorth i ddioddefwyr a thystion yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Nid oes angen rhoi gwybod i’r heddlu am y drosedd neu’r ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn cael mynediad at gymorth. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Goleudy, galwch heibio i www.goleudyvictimandwitnessservice.org.uk neu ffoniwch 0300 123 2996.