19 Gor 2019

Yng Ngwobrau Arts & Business Cymru, a gynhaliwyd yn ddiweddar, cyflwynwyd ‘Gwobr Celfyddydau, Busnes a Phobl Ifanc’ i Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys (Swyddfa’r Comisiynydd) am ei phartneriaeth arloesol gyda Chwmni Theatr Arad Goch.

Cynhaliwyd Gwobrau Arts & Business Cymru 2019 ar lwyfan Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd o flaen dros 400 o westeion o sector y celfyddydau a’r sector busnes.

Sefydlwyd y bartneriaeth rhwng Swyddfa’r Comisiynydd a Chwmni Theatr Arad Goch, Aberystwyth yn 2017. Tyfodd y bartneriaeth o bryder am y broblem o gamfanteisio rhywiol mewn ardaloedd gwledig. Wedi’i gomisiynu gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu, creodd cwmni Arad Goch ddarn o theatr fforwm o’r enw #Hudo, sydd wedi’i anelu at ddisgyblion ysgol uwchradd ac sy’n eu cael nhw i ymwneud ag amrediad o senarios i’w trafod.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys:

“Rwyf wrth fy modd bod llwyddiant ein partneriaeth wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol. Roeddwn i eisiau mynd i’r afael â’r broblem o gamfanteisio rhywiol mewn ardaloedd gwledig mewn ffordd greadigol. Mae cydweithio â Chwmni Theatr Arad Goch wedi bod yn effeithiol ar gyfer mynd i’r afael â mater mor sensitif a heriol. Bu llwyddiant y cynhyrchiad hwn yn ysgubol, ac mae’n dda gennyf gyhoeddi y bydd rhagor o arian ar gael drwy gynllun Ariannu Cymunedol y Comisiynydd i alluogi #Hudo i fynd ar daith eto a sicrhau bod y neges bwysig hon yn cael ei chyflwyno i fwy fyth o bobl ifanc yn y rhanbarth. Hoffwn ddiolch i Arad Goch am ddehongli ein neges mewn ffordd mor effeithiol”

Dywedodd Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch:

“Mae lles a syniadau pobl ifanc wrth galon gwaith y cwmni, a galluogodd cymorth ariannol gan y Comisiynydd ni i berfformio’r ddrama bwysig hon, ‘Hudo’, i lawer mwy ohonynt. Roedd y trafodaethau a’r cymorth ymarferol a dderbyniwyd gan y Comisiynydd a’i staff wrth i ni ymchwilio i’r mater sensitif hwn a’i berfformio llawn mor bwysig. Rydyn ni’n llongyfarch Dafydd Llywelyn a’i dîm a’u harloesedd i gydnabod gwerth a photensial creadigrwydd a’r celfyddydau i helpu pobl ifainc a’u diogelwch.”

Hefyd, gwelodd y prosiect y cyfarwyddwr yn gweithio’n agos â rhaglen SchoolBeat Heddlu Dyfed-Powys er mwyn deall thema camfanteisio rhywiol ymhellach, gan helpu i sicrhau bod ‘Hudo’ yn ymdrin ag ystod o agweddau o’r pwnc anodd a thywyll hwn mewn ffordd sy’n hygyrch ar gyfer y gynulleidfa darged.

Yn ystod noson Gwobrau Arts & Business Cymru, enillodd Cwmni Theatr Arad Goch Wobr Celfyddydau Hodge hefyd, a chyrhaeddodd Swyddfa’r Comisiynydd y rhestr fer ar gyfer gwobr Busnes y Flwyddyn Admiral 2019. Mae’r ddau gategori’n cydnabod y bartneriaeth gref sydd wedi datblygu rhwng y ddau sefydliad.