12 Gor 2019

12/07/2019

 

Dros £100,000 yn cael ei wobrwyo gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i Brosiectau Cymunedol  

Ym mis Ebrill 2019, lansiodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys raglen gyllido - Cronfa Gymunedol y Comisiynydd - lle’r oedd grantiau o rhwng £5,000 a £10,000 ar gael i grwpiau a sefydliadau ar draws ardal Dyfed-Powys.

 

Gwahoddodd geisiadau gan sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, yn ogystal â’r sectorau cyhoeddus a phreifat, ar gyfer prosiectau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddiogelwch cymunedau lleol, ac roedd yn rhaid i brosiectau llwyddiannus adlewyrchu blaenoriaethau allweddol y Comisiynydd: Cadw ein cymunedau’n ddiogel, diogelu’r rhai agored i niwed, amddiffyn ein cymunedau rhag bygythiadau difrifol, a chysylltu gyda chymunedau.

 

Derbyniwyd 60 cais gan amryw o sefydliadau ledled Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

 

Dafydd Llywelyn: “Diolch yn fawr i bawb a wnaeth gais am weithio mor galed ar eu cyflwyniadau i’r rhaglen gyllido.

 

Mae’n dda gennyf ddweud bod 18 cais yn llwyddiannus, ac y byddaf yn rhoi cyfanswm o £117,554 i’r prosiectau pwysig hyn. Edrychaf ymlaen at weld y gwahaniaeth mae’r grantiau’n gwneud o fewn ein cymunedau.

 

Bydd y prosiectau, mentrau a chynlluniau a fydd yn derbyn grantiau’n cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach y mis hwn. Cadwch olwg ar fy ngwefan a chyfryngau cymdeithasol am ragor o fanylion: http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-comisiynydd/ariannu-cymunedol-y-comisiynydd/

 

 

Diwedd