06 Ion 2020

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yn lansio ymgynghoriad heddiw, mewn cydweithrediad â Hafan Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda, a fydd yn ceisio barn pobl ifanc am blismona a throsedd, ac yn sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei glywed. Penderfynodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu weithio gyda'i gilydd ar y prosiect ymgysylltu ieuenctid hwn fel bod iechyd a phlismona'n cydweithio'n agosach i roi llais i bobl ifanc.

 

Comisiynodd CHTh Hafan Cymru ym mis Medi i ddatblygu ymhellach ei ddealltwriaeth o farn pobl ifanc ar blismona a throseddu. Mae hyn yn adeiladu ar waith cyfredol ei Fforwm Ieuenctid, a sefydlwyd yn 2018.

 

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn: "Mae ymgysylltu â phobl ifanc yn fy nghalonogi, ac rwyf bob amser yn mwynhau gwrando ar bobl ifanc a'u hannog i ddylanwadu ar fy ngwaith fel Comisiynydd. Yn ogystal ag ymweld â grwpiau ieuenctid ac ysgolion ar draws y rhanbarth, mae'r 12 mis diwethaf wedi gweld fy Fforwm Ieuenctid yn datblygu'n sylweddol. Penderfynais gomisiynu Hafan Cymru i weithio gyda fy Fforwm Ieuenctid fel y gallwn estyn allan a chlywed barn mwy o bobl ifanc, yn enwedig y rhai mwy anodd eu cyrraedd. Ac er mwyn gwneud hyn mor ystyrlon â phosibl, gofynnais i Fwrdd Iechyd Hywel Dda weithio gyda mi i ymgysylltu â phobl ifanc hefyd, er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio'n agosach i glywed yr hyn sydd gan bobl ifainc i'w ddweud yn effeithiol. Rydym yn falch iawn o gael gweithio law yn llaw ag ymarferwyr lleol profiadol, ac rwy'n llawn cyffro heddiw i lansio ein hymgynghoriad ieuenctid a fydd, gobeithio, yn galluogi cannoedd o bobl ifanc i gymryd rhan, a bydd ei ganlyniadau yn helpu i lywio'r berthynas rhwng pobl ifanc yn y dyfodol pobl a'r heddlu."

 

Ychwanegodd Leigh Martin, Hafan Cymru:

"Mae Hafan Cymru yn llawn cyffro o fod yn gweithio gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys ar y prosiect pwysig hwn i ddeall beth mae Pobl Ifanc ei angen gan yr heddlu nawr ac yn y dyfodol."

 

Dywedodd Nicola O’Sullivan, Pennaeth Ymgysylltu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n bwysig bod pobl ifainc yn cael y cyfle i gael eu lleisiau wedi’u clywed, felly mae’n dda iawn gennym weithio mewn partneriaeth â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Hafan Cymru er mwyn deall y problemau a wynebir gan bobl ifainc yn well. Mae rhai o’r problemau hyn yn ymestyn ar draws y maes iechyd a’r maes plismona ill dau.”

 

Bydd yr ymgynghoriad ieuenctid ar ffurf arolwg ar-lein a grwpiau ffocws gydag ysgolion, grwpiau ieuenctid, a phobl ifanc sy'n anoddach eu cyrraedd. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu rhannu mewn Cynhadledd Ieuenctid ym mis Mawrth 2020. Ystod oedran yr arolwg yw pobl ifanc 14-25 oed. 

 

Os ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc 14-25 oed yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion neu Bowys, gallwch gael mynediad i'r arolwg yma https://www.surveymonkey.co.uk/r/einllaiscym

Os hoffech i Hafan Cymru siarad â grwpiau ieuenctid yn eich ardal, mae croeso i chi gysylltu â Hafan Cymru ar 01267 225563.