11 Tach 2019

Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol Dyfed-Powys yn dod ag uwch gynrychiolwyr asiantaethau cyfiawnder troseddol sy’n gweithredu yn Nyfed-Powys at ei gilydd er mwyn gwella’r ffordd y mae cyfiawnder yn cael ei gyflwyno a gwella’r gwasanaeth a roddir i ddioddefwyr a thystion. Mae’r Bwrdd yn cwrdd bob chwarter ac yn cael ei gadeirio gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, sy’n gyfrifol am gefnogi dioddefwyr a dwyn pobl i gyfiawnder.

 

Y meysydd blaenoriaeth a ddewiswyd gan aelodau’r Bwrdd ar gyfer 2019/2020 yw:

  1. Iechyd meddwl, gan gynnwys:
  1. Brysbennu Stryd, sy’n cynnig cymorth adeg argyfwng i’r rhai sydd mewn angen
  2. Concordat Gofal Adeg Argyfwng (cytundeb cenedlaethol rhwng gwasanaethau ac asiantaethau sy’n gysylltiedig â gofalu am bobl mewn argyfwng a’u cefnogi)
  1. Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
  2. Y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr

 

Yn nghyfarfod y Bwrdd fis Gorffennaf, canolbwyntiwyd ar iechyd meddwl, a rhoddwyd diweddariad cynhwysfawr ynghylch gweithgarwch cyfredol yn Nyfed-Powys, gan gynnwys gwaith y Concordat Gofal Adeg Argyfwng. Hefyd, trafodwyd ambell ddatblygiad iechyd meddwl cyffroes. Yn gyntaf, trafodwyd y ddarpariaeth iechyd meddwl cymunedol newydd yn Aberystwyth. Golyga hyn y bydd y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ar gael am fwy o oriau, saith diwrnod yr wythnos, o 7 Hydref 2019, a bwriedir cynnig mynediad 24/7 ym mis Ionawr 2020. Bu datblygiadau hefyd mewn perthynas â darpariaeth nyrsys iechyd meddwl mewn gofal cychwynnol yn y sir. Yn olaf, mae gwasanaeth iechyd meddwl tu allan i oriau arloesol ar gyfer oedolion wedi ei lansio yn Llanelli – The Twilight Sanctuary. Dyma’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mae ar agor o ddydd Iau i ddydd Sul o 6 o’r gloch y nos tan 2 o’r gloch y bore, er mwyn cynnig noddfa i oedolion sydd â’u hiechyd meddwl yn debygol o ddirywio pan mae gwasanaethau eraill sy’n seiliedig ar gymorth ar gau. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd gan ddau brif elusen iechyd meddwl – Hafal a Mind. Yn ystod yr oriau hyn, mae gweithwyr iechyd hefyd ar gael, sy’n cynorthwyo ag anghenion trafnidiaeth er mwyn lleihau’r pwysau ar wasanaethau heddlu ac ambiwlans. Mae cynlluniau pellach yn cael eu datblygu er mwyn gwella mynediad i ddarpariaeth ymyriadau camddefnyddio sylweddau estyn allan yn yr ardal.

 

Cynhaliwyd cyfarfod diweddaraf y Bwrdd fis Hydref, a chanolbwynt y cyfarfod hwnnw oedd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Roedd y cyfarfod hwn yn cynnwys diweddariad ynglŷn â’r Ddesg Fregusrwydd yn Nyfed-Powys, a gyflwynwyd yn ddiweddar ac sy’n helpu’r heddlu i gyflenwi gwasanaethau hollbwysig i ddioddefwyr cam-drin domestig a chymorth i swyddogion rheng flaen sy’n ymateb i’r digwyddiadau hyn. Hefyd, cafwyd cyflwyniad gan Ymgynghorydd Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ar gynnydd asiantaethau partner, megis Awdurdodau Lleol ac Iechyd, o ran cyflwyno gwasanaethau i ddioddefwyr. Yn bwysicaf oll, y tro hwn, adolygodd a thrafododd y Bwrdd ymosodiad rhywiol diweddar lle’r oedd y dioddefydd wedi profi heriau sylweddol â’r system cyfiawnder troseddol. Cyfarfu’r dioddefydd â Mr Llywelyn, a nodwyd nifer o faterion. Gan hynny, roedd Mr Llywelyn yn awyddus i godi’r rhain â chynrychiolwyr bwrdd i’w trafod a’u hystyried.

 

Dywedodd Dafydd Llywelyn: “Rwy’n angerddol ynghylch cefnogi dioddefwyr a dwyn pobl i gyfiawnder. Rydw i eisiau i’r cyhoedd gael hyder a ffydd yn y system cyfiawnder troseddol, a thrwy gadeirio Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Dyfed-Powys, medraf sicrhau ein bod ni wir yn dylanwadu ar y gwasanaeth a ddarperir i ddioddefwyr a thystion, a’r modd y darperir gwasanaethau cyfiawnder troseddol, ac yn cyflwyno gwelliannau.

“Rwyf wedi ymrwymo i gynrychioli llais y cyhoedd ar faterion plismona, a dyna pam rwyf mor awyddus i’r cyhoedd ymgysylltu â mi, fel ein bod ni’n medru gwella pethau gyda’n gilydd. Roeddwn i mor ddiolchgar i’r dioddefydd a ddaeth i gwrdd â mi i drafod ei phrofiadau diweddar, a’r heriau sylweddol a wynebodd yn ein system cyfiawnder troseddol. Rwy’n gwerthfawrogi mor anodd a brawychus oedd hyn, ond rwy’n benderfynol o ddysgu gwersi a chyflwyno gwelliannau drwy godi’r materion hyn â’r cynrychiolwyr Bwrdd.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Dyfed-Powys, neu os hoffech rannu eich profiad o’r system cyfiawnder troseddol yn yr ardal, cysylltwch â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu drwy alw 01267 226440, e-bostio opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk, neu drwy alw heibio i’r wefan www.dyfedpowys-pcc.org.uk.

diwedd