24 Medi 2020

 Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn galw ar yr Ysgrifennydd Cartref i atal symudiadau pellach o geiswyr lloches i safle Penalun o ganlyniad i bryderon ynghylch addasrwydd y safle, a diffyg seilwaith lleol.

Heddiw, 24 Medi 2020 mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn wedi ysgrifennu ail lythyr at yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel, yn galw ar y Swyddfa Gartref i atal symudiadau pellach ceiswyr lloches i safle Penalun, Sir Benfro yn dilyn ymweliad â’r safle yr wythnos hon.

Ddydd Mawrth, ymwelodd CHTh Dafydd Llywelyn â’r safle yn Penalun, a bu’n cwrdd â rhai cynrychiolwyr cymuned lleol yn yr ardal, ac mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref heddiw, mae Mr Llywelyn wedi codi pryderon ynghylch addasrwydd y safle i gartrefu ceiswyr lloches.

Dywedodd CHTh Mr Llywelyn; “Yn dilyn nifer o gyfarfodydd a sesiynau briffio, gan gynnwys ymweliad â safle Penalun, rwyf bellach yn poeni mwy fyth am y penderfyniadau a wnaed gan y Swyddfa Gartref.

“Yn benodol, rwy’n poeni am addasrwydd y safle adfeiliedig, y diffyg seilwaith lleol ar gyfer y preswylwyr a fwriadwyd, y potensial i hyn ddod yn ganolbwynt ar gyfer sylw gan eithafwyr asgell dde, ac yn olaf, y diffyg strategaeth sydd i mi, yn adlais o sgandal Windrush. ”

Dros y 10 diwrnod diwethaf, mae'r CHTh wedi mynychu sawl cyfarfod amlasiantaeth yn cynnwys cydweithwyr yn yr Heddlu, yr Awdurdod Unedol, Iechyd a Llywodraeth Cymru, yn gofyn am i fwy o gynllunio ddigwydd ac i'r trefniadau gwreiddiol mewn perthynas â chyflymder deiliadaeth gael eu arafu. Dywedodd Mr Llywelyn: “Yn fy llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref ar ddechrau’r wythnos, gofynnais am gefnogaeth i fy safbwyntiau o fod eisiau gweld cynllunio manwl, ymgysylltu â’r gymuned a thryloywder wrth wneud penderfyniadau.

“Yn dilyn ymweliad â’r safle yn Penalun - lle gwelais lety sydd mewn cyflwr gwael ac nad yw’n ddigonol ar gyfer cartrefu 230 o ddynion ifanc drwy’r gaeaf, gofynnaf yn awr i’r Ysgrifennydd Cartref atal unrhyw symudiadau pellach i safle hyd nes y gellir gwneud cynnydd i ystyried canlyniadau anfwriadol yn llawn; asesiadau effaith gymunedol, ac y gellir ymgysylltu â'r holl randdeiliaid allweddol i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i gefnogi'r unigolion bregus hyn “.

DIWEDD

Gwybodaeth bellach;

Gruff Ifan

OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk