06 Mai 2020

Mewn Llythyr Agored at y cyhoedd heddiw, mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn wedi annog pobl i beidio â theithio i Gymru, ac i ardal Dyfed-Powys yn arbennig ar gyfer Gŵyl Banc mis Mai y penwythnos hwn.

Mae'r llythyr, sydd hefyd wedi'i lofnodi gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Cymru, a Chadeirydd Grŵp Prif Swyddogion Cymru, yn gofyn i bobl barchu'r cyfyngiadau teithio cyfredol sydd mewn grym er mwyn cyfyngu ar drosglwyddo COVID-19 mewn cymunedau yng Nghymru.

Yn benodol, mae'r llythyr yn annog perchnogion ail gartrefi yng Nghymru i weithredu'n gyfrifol ac i osgoi teithio i'r cartrefi hynny tan fod y cyfyngiadau wedi'u codi. Mae pobl sy'n aros i ffwrdd o'u cartrefu arferol, heb reswm dilys I wneud hynny, yn cyflawni trosedd.

Gydag ardaloedd arfordirol Dyfed Powys yn gyrchfannau hynod boblogaidd i dwristiaid yn ystod yr adeg yma o'r flwyddyn, Sir Benfro a Cheredigion yn benodol, mae 752 o hysbysiadau cosb wedi eu dosbarthu gan yr heddlu hyd yma ar draws ardal yr Heddlu o ganlyniad i deithio nad yw'n hanfodol. Mae hanner cant y cant o'r hysbysiadau hyn wedi eu rhoi i bobl sy’n byw y tu allan i ardal yr Heddlu.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, “Roeddwn i gyda’r cyntaf i ddod allan yn gyhoeddus wrth alw am fesurau cyfyngiadau teithio er mwyn diogelu ein cymunedau.

“Rwyf wedi ei gwneud hi’n glir ers i’r mesurau hynny ddod i rym, fod y rheiny nad ydynt yn glynu neu’n parchu’r cyfyngiadau, ac sy’n parhau i deithio os nad yw’n hanfodol i wneud – gan gynnwys teithio i ail gartrefi, eu bod nhw’n cyflawni trosedd ac y bydd yr heddlu yn delio a nhw yn briodol.

“Mae ffocws yr heddlu yn parhau i ganolbwyntio ar ymgysylltu, addysgu ac anog y cyhoedd, ond byddant yn cymryd camau gorfodi lle bo angen gwneud hynny.

“Er ei bod hi’n destun pryder ar un ystyr i weld bod cymaint o hysbysiadau cosb wedi’u cyhoeddi yn ein hardal, does gen i ond canmoliaeth lwyr i’w roi i’r Prif Gwnstabl Mark Collins a’r Llu yn eu hagwedd a’u hymateb gweithredol i’r mesurau, ac rwy’n ddiolchgar iawn iddynt am eu holl gwaith caled yn sicrhau ein diogelwch yn ystod yr amseroedd digynsail hyn.

“Bydd plismona rhagweithiol yn parhau. Mae’r lockdown yn parhau. Peidiwch â gwneud camsyniad - mae hwn yn parhau i fod yn argyfwng cenedlaethol - nid gwyliau cenedlaethol”.

 

DIWEDD

Am ragor o fanylion;

Gruffudd Ifan – Gruffudd.ifan.opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk