16 Meh 2020

Ar 24 Mehefin 2020, bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ar gyfer trigolion Sir Powys fel rhan o Ddiwrnod Ymgysylltu â'r Gymuned digidol y mae ei swyddfa yn ei drefnu.

Hwn fydd digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus cyntaf y Comisiynydd yn Powys ers i gerflun yr Angel Gyllell ymweld â'r Drenewydd yn gynharach yn y flwyddyn ym mis Ionawr pan ddyfarnwyd y Wobr Gwrth-Drais Genedlaethol i Swyddfa'r Comisiynydd fel cydnabyddiaeth am eu cyfraniad i daith y Cerflun Genedlaethol yn erbyn Trais ac Ymddygiad Ymosodol o gwympas y DU.

Y Drenewydd oedd y lle cyntaf yng Nghymru i groesawu’r Angel Cyllell, diolch i ymdrechion Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Swyddfa Dyfed-Powys a Chynghorwyr lleol yn y Drenewydd. Fel rhan o'r ymweliad, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus yn yr ardal i blant a phobl ifanc I hyrwyddo'r Angel, ac i godi ymwybyddiaeth o'r effeithiau niweidiol y mae ymddygiad treisgar yn eu cael ar gymunedau.

Bydd Cyfarfod Cyhoeddus y Comisiynydd yr wythnos nesaf yn gyfle i edrych yn ôl ar lwyddiant ymweliad yr Angel Cyllyll, yn ogystal â chyfle i drafod materion eraill y mae preswylwyr am eu codi gyda’r Comisiynydd.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd; “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y diwrnod Ymgysylltu ym Mhowys yr wythnos nesaf, yn bennaf oherwydd bydd yn gyfle imi ddal i fyny â llawer o bobl a sefydliadau y gwnes i eu cyfarfod, ac a weithiodd gyda fy staff, ym mis Ionawr yn ystod ymweliad yr Angel Cyllyll.

“Cynhaliwyd llawer o ddigwyddiadau trwy fenter yr Angel yn y Drenewydd, ac mae fy staff newydd gwblhau adroddiad i’r Swyddfa Gartref sy’n rhoi manylion am yr holl ddigwyddiadau ac effaith a dylanwad yr ymweliad ar yr ardal. Bydd hi’n wych cael cyfle i edrych yn ôl ar yr uchafbwyntiau yn ystod y cyfarfod, tra hefyd yn mynd i’r afael â materion a chwestiynau eraill y mae preswylwyr eisiau eu codi gyda mi.

“Pe byddech wedi dweud wrtha’ i nôl ym mis Ionawr, y byddai’r digwyddiad cyhoeddus nesaf y byddwn yn ei gynnal yn ardal Powys yn gorfod digwydd trwy offer fideo-gynadledda, byddwn mewn anghrediniaeth lwyr dwi’n sicr. Fodd bynnag, hwn fydd fy nhrydydd cyfarfod cyhoeddus rhithiol sy'n rhan o fy nyddiau ymgysylltu cymunedol, a hyd yn hyn, mae’r cyfarfodydd eraill a gynhaliwyd yn Sir Benfro a Cheredigion wedi bod yn llwyddiannus ac mae'n wych gweld sut mae pobl wedi cofleidio'r defnydd o dechnoleg yn ystod y cyfnod cloi hwn.”

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng 11am a 12pm ddydd Mercher 24 Mehefin. Dywedodd Mr Llywelyn: “Unrhyw un sy’n dymuno mynychu’r cyfarfod yr wythnos nesaf, cysylltwch â fy swyddfa i gael y manylion penodol ar sut i ymuno trwy Zoom”.

Yn ystod diwrnodau Ymgysylltu â'r Gymuned, yn ogystal â chyfarfod cyhoeddus, bydd y Comisiynydd yn cael cyfarfodydd gyda phartneriaid, sefydliadau a gwasanaethau a gomisiynir yn yr ardal. Os hoffai unrhyw un geisio trefnu cyfarfod gyda'r Comisiynydd yn ystod Diwrnod Ymgysylltu Powys, mae slotiau amser cyfyngedig ar gael. E-bostiwch y Swyddfa ar OPCC.Communication@dyfed-powys.pnn.police.uk cyn dydd Gwener, 19eg Mehefin i weld ei argaeledd.

 

D I W E DD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu | Gruffudd.Ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk