21 Chw 2020

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, wedi cynnal adolygiad o gyffredinolrwydd a ffactorau sy'n effeithio ar ddioddefwyr yn tynnu'n ôl, ac mae e wedi gwneud nifer o argymhellion er mwyn sicrhau y cyflwynir y gwasanaeth gorau posibl i ddioddefwyr yn ardal Dyfed-Powys.

Bydd yr adroddiad llawn ar yr adolygiad o ddioddefwyr yn tynnu'n ôl yn cael ei rannu ag aelodau o'r Panel Heddlu a Throseddu lleol yn eu cyfarfod cyhoeddus heddiw, sef 21 Chwefror 2020.

Wedi'i sbarduno gan gynnydd amlwg yn nifer y dioddefwyr sy'n tynnu cefnogaeth ar gyfer ymchwiliadau i droseddau domestig a rhywiol yn ôl, achosion unigol y tynnwyd sylw'r Comisiynydd atynt, a'i gyfrifoldeb i weithredu fel llais dioddefwyr, roedd yr adolygiad yn craffu ar y canfyddiadau o nifer o adroddiadau blaenorol ar y pwnc ac yn cyflwyno adborth a dderbyniwyd gan ddioddefwyr.

Adroddodd dros 80% o ddioddefwyr a dynnodd eu cefnogaeth ar gyfer ymchwiliad yn ôl eu bod yn fodlon â'u profiad cyffredinol, ond mae'n hollbwysig fod y dioddefwyr hyn yn medru cael mynediad at y gefnogaeth briodol i'w helpu i ymdopi ag effaith y drosedd a dod drosti.

Er bod dioddefwyr yn amlwg yn flaenoriaeth ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, mae rhai pryderon ynghylch cysondeb a chywirdeb y data a ddefnyddir i hysbysu cynllunio camau gweithredu. Mae dyblygu yn y cyswllt sy'n cael ei wneud gyda dioddefwyr a diffyg ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael.

Mae cyfres o argymhellion wedi eu derbyn gan y Prif Gwnstabl, Mark Collins, sydd wedi nodi manylion y camau gweithredu a gynlluniwyd gan yr Heddlu mewn ymateb ffurfiol i’r Comisiynydd. Bydd swyddfa'r Comisiynydd yn defnyddio'r cynllun gweithredu hwn i adolygu cynnydd yr Heddlu dros y misoedd nesaf.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

“Rydw i wedi fy nghalonogi gan ymateb yr Heddlu i’r ffaith fod fy swyddfa’n ymgymryd â’r gwaith hwn, ac rwyf yn diolch i’r holl rai a gyfrannodd yn onest ac yn drylwyr i’r adolygiad. Mae dioddefwyr wrth galon pob dim a wnawn, ac mae'n hollbwysig fod eu lleisiau'n cael eu clywed a'n bod ni'n darparu gwasanaeth sydd wedi'i deilwra i'w hanghenion. Bydd fy swyddfa'n parhau i hyrwyddo amryw o ffyrdd y gall dioddefwyr rannu eu profiad a rhoi adborth ynghylch sut y gellid gwella gwasanaethau. Byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi cael profiad o'n gwasanaethau i ddefnyddio'r cyfleoedd hyn i'n helpu i lunio darpariaeth yn y dyfodol.”

 

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

1. Ceir yr adroddiad llawn, crynodeb a blog fideo’r Comisiynydd ar http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/atebolrwydd-a-thryloywder/craffu/