11 Mai 2020

Er gwaethaf y mesurau ymbellhau cymdeithasol cyfredol, mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn, wedi parhau i gynnal ei ymrwymiadau craffu ac atebolrwydd yn llwyddiannus, drwy gofleidio'r defnydd o dechnoleg.

Ddydd Llun, 11eg o Fai 2020, cynhaliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd gyfarfod cyhoeddus rhithiol o Fwrdd Atebolrwydd yr Heddlu, lle mae’n dal y Prif Gwnstabl, Mark Collins a'i uwch staff i gyfrif ar amryw faterion plismona.

Yn bresenol yn y cyfarfod roedd Cynghorwyr o Gynghorau Tref a Sir lleol ynghyd â nifer o bobl ifanc o bob rhan o ardal Dyfed-Powys.

Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn Cadeirio Bwrdd Plismona bob tair wythnos, gydag un bob chwarter yn agored i'r cyhoedd ei fynychu i godi materion a gofyn cwestiynau. Gyda'r cyfyngiadau cyfredol o ran gallu cyfarfod wyneb yn wyneb, cynhaliwyd y cyfarfod ddydd Llun fwy neu lai trwy Skype, gyda sawl aelod o'r cyhoedd yn bresennol.

Esboniodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, “

“Mae'n hanfodol, o ystyried yr amgylchiadau presennol, a'r newidiadau y mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gorfod eu gwneud, fy mod yn parhau i gynnal cyfarfodydd o’r Bwrdd Plismona, er mwyn sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn darparu gwasanaeth heddlu sy'n diwallu anghenion cyfredol ein cymunedau - ac rwyf wedi bod yn gwneud hynny, fwy neu lai, trwy gyfleusterau fideo-gynadledda.

“Gan i mi gael fy ethol I’r rôl hon gan y cyhoedd, ac yn cynrychioli eu llais, roedd hi’n bwysig i mi yn bersonol, i sicrhau ein bod yn parhau â’r cynlluniau gwreiddiol o sicrhau bod cyfarfod a drefnwyd yr wythnos hon yn agored i'r cyhoedd i’w fynychu.”

Ymhlith y materion a oedd o ddiddordeb mawr i'r bobl ifanc oedd sut roedd yr heddlu'n plismona twristiaid a oedd yn teithio i'r ardal, a hefyd pa baratoadau oedd yn cael eu gwneud ar gyfer plismona newidiadau I’r lockdown. Dywedodd Mr Llywelyn, “Roedd hi’n bleser ac yn chwa o awyr iach mewn sawl ffordd i groesawu pobl ifanc i’r cyfarfod, a chlywed eu barn a’u pryderon. Ers i'r mesurau cloi ddod i rym, rwyf wedi cynnal tri chyfarfod o'r Fforwm Ieuenctid sydd gennyf gyda'm Llysgenhadon Ieuenctid dros Zoom, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw ddatblygiadau perthnasol, a hefyd er mwyn darparu llwyfan iddynt i nodi unrhyw bryderon ar ran eu cyfoedion.

“Roedd yn wych i allu cymryd eu cwestiynau heddiw a chael y Prif Gwnstabl, Mark Collins yn ymateb yn uniongyrchol iddynt.

Ychwanegodd y Llysgennad Ieuenctid, Cai Phillips, “Mae’n bwysig iawn bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed yn ystod y cyfnod digynsail hwn, ac roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i fod yn un o’r bobl ifanc a oedd yn rhan o gyfarfod Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu. Gofynnais i'r Prif Gwnstabl, Mark Collins, rai cwestiynau pwysig ar ran y bobl ifanc yn fy ardal, gan gynnwys beth yw'r canllawiau diogelwch dalfa troseddwyr ieuenctid. Roedd hefyd yn ddiddorol clywed beth mae'r heddlu'n ei wneud i atal pobl rhag teithio i ardaloedd gwledig ac arfordirol yn ystod y broses gloi, a beth yw'r strategaeth ymadael ar gyfer plismona unrhyw newidiadau i’r cyfyngiadau. "

Dywedodd Cynghorydd Sir Caerfyrddin, Mr Emlyn Schiavone, a oedd hefyd yn bresennol; “Roedd yn werthfawr derbyn mewnbwn gan bobl ifanc sydd ar Fforwm Ieuenctid y Comisiynydd. Maen nhw'n tyfu i fyny mewn byd sy'n wahanol i'm cenhedlaeth i ac roedd hi'n bwysig derbyn eu cwestiynau a'u mewnbwn. Rydym yn ffodus bod gennym Heddlu effeithlon ac effeithiol yn Dyfed-Powys. Gyda'i gilydd roedd hwn yn gyfarfod addysgiadol a chynhwysfawr dan gadeiryddiaeth y Comisiynydd. ”

Mae cofleidio cyfleusterau technoleg wedi bod yn hanfodol wrth fynd ati i sicrhau nad yw’r amgylchiadau presenol yn tarfu’n ormodol ar waith dydd I ddydd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn enwedig ar gyfer cynnal cyfarfodydd fel Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu.

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ogystal â Heddlu Dyfed-Powys wedi gweld cynnydd dramatig yn y defnydd o gyfleusterau technoleg rhithiol sydd ar gael i'w gweithwyr ers i'r mesurau cloi gael eu rhoi mewn lle. Dangosodd data a ryddhawyd gan Dyfed Powys gynnydd o 240% yn sesiynau Cyfarfod Sain Skype yn ystod pythefnos cyntaf lockdown, a chynnydd o 632% mewn sesiynau Negeseuon Gwib Skype rhwng cydweithwyr.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, “Mae llwyddiant y sesiynau rhithiol hyn wedi dangos i mi nad oes angen i ni deithio i bob cyfarfod na chyfarfod yn bersonol ar bob achlysur.

“Nid yn unig y mae’r dull hwn o gynnal cyfarfodydd wedi profi’n werth chweil o ran gostwng ein hôl troed carbon ac arbed costau trwy leihau’r milltiroedd yr ydym yn teithio, ond mae hefyd wedi gwella effeithlonrwydd; mae cyfarfodydd yn symlach, a chyda tipyn mwy o ffocws”.

Ar ddydd Mercher 13 Mai 2020, bydd y Comisiynydd yn cynnal cyfarfod cyhoeddus arall drwy Skype ar gyfer preswylwyr Sir Benfro fel rhan o ddiwrnod ymgysylltu cymunedol y mae’r Swyddfa’n ei gynnal. Os oes diddordeb gan unrhyw rai I fynychu, cysylltwch a’r Swyddfa ar OPCC.Communication@dyfed-powys.pnn.police.uk.

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Gruffudd.ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk