28 Gor 2020

Ar 31 Gorffennaf cyhoeddodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn ei Adroddiad Blynyddol sy'n edrych yn ôl ar gyflawniadau allweddol 2019-2020 a'r cynnydd sylweddol a wnaed yn erbyn y blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun yr Heddlu a Throsedd.

Yn ogystal â'r adroddiad ysgrifenedig, mae'r Comisiynydd wedi dewis dull ychwanegol a gwahanol eleni wrth gyhoeddi cyfres o wyth cynhyrchiad fideo i sicrhau bod y wybodaeth yn fwy hygyrch i'r cyhoedd.

Mae adroddiad 2019/20 yn darparu manylion y gwaith a gwblhawyd rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020 i fodloni blaenoriaethau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Ymhlith yr uchafbwyntiau mwyaf arwyddocaol mae:

  • Cwblhau'r Prosiect teledu cylch cyfyng;
  • Ennill y Marc Ansawdd Tryloywder;
  • Y Comisiynydd yn dod yn Gadeirydd y Grwp Plismona yng Nghymru a'r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol;
  • Y cynnydd a wnaed o ran rhoi llais i bobl ifanc trwy Fforwm Ieuenctid y CHTh;
  • Y buddsoddiadau a wnaed mewn gwasanaethau hanfodol a phrosiectau cymunedol;
  • Lansiad y Cynllun Dargyfeirio Troseddwyr, a ymddangosodd yng nghyhoeddiad APCC “PCCs Making a Difference: Alcohol and Drugs in Focus”.
  • Y gwaith craffu a wneir gan y Swyddfa mewn meysydd penodol o blismona, a'r argymhellion sy'n cael eu rhoi ar waith; a
  • Cynnal Cynhadledd flynyddol Dydd Gwyl Dewi, gyda'r ffocws eleni ar Plismona mewn Ardaloedd Gwledig.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn: “Ddaeth y flwyddyn ariannol i ben mewn amgylchiadau hollol wahanol i’r man lle roedden ni ar ddechrau’r flwyddyn oherwydd Covid-19.

“Wrth edrych yn ôl dros y flwyddyn, ynghyd â staff yn fy Swyddfa, rwyf i wedi gweithio’n galed i gyflawni datblygiadau sylweddol, a gobeithio y bydd y cyhoedd yn fwy na bodlon gyda’r gwaith a gyflawnwyd wrth edrych ar wahanol adrannau o’r adroddiad”.

“Er gwaethaf y mesurau cloi a ddaeth i rym tuag at ddiwedd y flwyddyn, parheais i gyflawni fy rôl fel Comisiynydd mor effeithiol â phosibl i sicrhau bod gennym wasnaeth Heddlu sy'n adlewyrchu anghenion a disgwyliadau Cymunedau ar draws Dyfed-Powys, yn enwedig yn ystod yr amseroed digynsail hyn”.

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi mabwysiadu dull gwahanol i’r Adroddiad Blynyddol eleni er mwyn ceisio sicrhau bod y wybodaeth yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.

Ychwanegodd Mr Llywelyn, “Bydd cynyrchiadau fideo’r adroddiad ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan, a byddant yn sicrhau bod y wybodaeth yn fwy hygyrch i’r cyhoedd a bydd yn caniatáu imi a fy Swyddfa ymgysylltu â chynulleidfa ehangach - rhywbeth yr wyf i bob amser wedi ceisio cyflawni ers fy nghyfnod fel Comisiynydd.

“Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd pobl yn ymateb iddynt, a sut y byddant, gobeithio, yn annog pobl i ymgysylltu â, a chyfrannu at rywfaint o fy ngwaith fel Comisiynydd.”

Oherwydd gohirio Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd o ganlyniad i COVID-19, mae amser y Comisiynydd yn y swydd wedi'i ymestyn o flwyddyn, a bydd yr etholiadau yn cael eu cynnal bellach ym mis Mai 2021. Er bod blaenoriaethau'r Comisiynydd a nodir yng Nghynllun yr Heddlu a Throsedd, yn aros yr un fath, mae Mr Llywelyn wedi cadarnhau y bydd y ffocws ar gyfer 2020/20201 ar sicrhau bod gan yr Heddlu ddigon o adnoddau i ymateb ac adfer o'r argyfwng cenedlaethol.

Ychwanegodd Mr Llywelyn: “Mae gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd ran bwysig i’w chwarae wrth gefnogi Prif Gwnstabliaid i helpu i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod cyfnod y coronafirws, ac rwyf wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â’r Prif Gwnstabl Mark Collins, yn ceisio sicrwydd ganddo – ar ran y cyhoedd - o drefniadau'r Heddlu wrth ddelio â phandemig COVID-19. Wrth edrych ymlaen yn 2020.21 rhaid i’m prif ffocws fod ar; sicrhau bod gan y Prif Gwnstabl ddigon o adnoddau i ymateb i'r argyfwng ac adfer ohono; sicrhau bod yr heddlu'n ymateb mewn ffyrdd sy'n angenrheidiol, yn ddigonol, yn gymesur ac yn foesegol; hwyluso gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol ymhlith asiantaethau a grwpiau sy'n gweithio ym maes diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol; comisiynu gwasanaethau, yn enwedig ar gyfer dioddefwyr troseddau, a darparu grantiau at ddibenion plismona a lleihau troseddau; sicrhau bod gan breswylwyr a wasanaethir gan Heddlu Dyfed-Powys y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddeall sut mae eu gwasanaeth yn perfformio ”.

Mae'r Adroddiad Blynyddol ar gael i'w lawrlwytho'n llawn yma, a'r cynyrchiadau fideo yma.

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghgorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk