05 Chw 2021

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn, wedi cyhoeddi bod cyllideb ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys wedi cael ei chefnogi gan Banel Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, a fydd yn arwain at gynnydd blynyddol o £15 ar gyfer eiddo band D ym mhrecept yr heddlu - gan aros y cyngor treth praesept isaf yng Nghymru.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn gyfrifol am osod cyllideb ar gyfer yr heddlu, sy'n cynnwys gosod y praesept - dyma'r elfen o'r dreth gyngor sy'n mynd i'r heddlu, ac mae’n cael ei hadolygu a'i chefnogi gan y Panel Heddlu a Throsedd lleol.

Bydd y cynydd yn golygu £1.25 ychwanegol y mis i bob cartref, ar gyfer eiddo band D. Mae'r cynnydd o £15 y flwyddyn ar gyfer 2021/22 a gynigiwyd gan Mr Llywelyn yn gyson â hyblygrwydd praesept Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020.

Ym mis Rhagfyr 2020, lansiodd y Comisiynydd ymgynghoriad cyhoeddus ar braesept yr heddlu, a ofynnodd i'r cyhoedd am eu barn ar gyllid yr heddlu. Cymerodd dros 600 o bobl ran yn yr ymgynghoriad. Nododd 80% o'r ymatebwyr eu bod yn barod i dalu cynnydd yn y praesept treth gyngor, gyda 64% yn hapus i dalu £1.50 y mis yn ychwanegol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Rwy’n ddiolchgar i aelodau Panel Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys am y gefnogaeth heddiw.”

“O ystyried yr amrywiaeth o bwysau a gofynion gwasanaeth a wynebir, rwyf wedi ystyried yn ofalus yr effeithiau a’r risgiau sylweddol sy’n bygwth ein cymunedau lleol. Bydd y lefel hon o gyllid yn galluogi'r Heddlu i barhau i ganolbwyntio ar gyflawni fy Nghynllun Heddlu a Throsedd a pharhau i ddiogelu'r cyhoedd o Dyfed Powys."

“Mae'n braf hefyd bod canlyniadau fy ymgynghoriad cyhoeddus wedi dod i'r casgliad bod mwyafrif y cyhoedd yn gefnogol i gynnydd yn eu praesept plismona er mwyn cefnogi ein gwasanaeth heddlu.”

“Rwy’n diolch i’r panel a’r cyhoedd am eu cefnogaeth barhaus.”

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu