01 Meh 2020

Rhwng 1af a 7fed Mehefin, fel rhan o wythnos ryngwladol gwirfoddolwyr, bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn cwrdd â sawl un o’i grwpiau o wirfoddolwyr i ddiolch iddynt am eu cyfraniad at ei waith.

Mae Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ledled y wlad yn gweithio gyda grwpiau gwirfoddol i gefnogi eu gwaith craffu ar wasanaethau plismona. Bydd grwpiau gwirfoddol yn gweithio gyda Chomisiynwyr ar nifer o gynlluniau i helpu i gefnogi pobl sy'n agored i niwed; sicrhau proffesiynoldeb o fewn heddluoedd; rhoi hyder bod safonau uchel yn cael eu cynnal; amddiffyn hawliau pobl; a galluogi her os nad yw pethau fel yr hyn a ddisgwylir.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd; “Mae fy ngwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig wrth fy helpu i gyflawni fy ngweledigaeth a nodir yng nghynllun yr Heddlu a Throsedd ac rwy'n ddiolchgar iawn i bob unigolyn sy'n gwirfoddoli gyda mi i gyflawni'r cynlluniau hanfodol hyn.

“Mae’r wythnos hon yn nodi wythnos rhyngwladol gwirfoddolwyr. Yn yr amseroedd digynsail hyn, efallai na fydd nifer o fy nghynlluniau yn gallu cyflawni eu dyletswyddau arferol. Fodd bynnag, rwy'n ddiolchgar i bob unigolyn am eu hymgysylltiad parhaus â'r Swyddfa a'u hymrwymiad dros y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau bod y cyhoedd yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hyderus, ac edrychaf ymlaen at gwrdd â nhw yn ystod yr wythnos hon."

Ar hyn o bryd mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn cynnal pedwar cynllun gwirfoddolwyr, sy'n cynnwys, y cynllun Ymweld â Dalfeydd Annibynnol, yr ymwelwyr Lles Anifeiliaid, Panel Sicrwydd Ansawdd, a'r Fforwm Ieuenctid gyda Llysgenhadon Ieuenctid.

Mae Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol (ICVs) yn wirfoddolwyr o'r gymuned leol sy'n ymweld ag ystafelloedd dalfa'r heddlu mewn parau, yn ddirybudd, i wirio lles carcharorion ac i sicrhau bod eu hawliau'n cael eu cynnal. Yn 2019/20, ymwelwyd â chyfanswm o 208 ar draws ardal yr Heddlu, gydag 146 o garcharorion yn cael eu hymweld a 66 yn cael eu harsylwi. Oherwydd Covid-19 fodd bynnag, mae ymweliadau yn cael eu hatal ar hyn o bryd, a bydd y penderfyniad hwn yn cael ei adolygu'n rheolaidd.

Gyda'r Cynllun Lles Anifeiliaid, mae gwirfoddolwyr yn aelodau o'r gymuned leol sydd â phrofiad o gŵn gwaith a gweithwyr proffesiynol o sefydliadau lles anifeiliaid. Mae lles cŵn yr heddlu yn bwysig; rhaid eu trin yn effeithiol, trugarog, moesegol a thryloyw. Mae gwirfoddolwyr yn fy Nghynllun Lles Anifeiliaid yn arsylwi, rhoi sylwadau ac adrodd ar y lles a'r cyflwr y mae cŵn heddlu yn cael eu cartrefu, eu hyfforddi, eu cludo a'u defnyddio.

Sefydlwyd y Panel Sicrwydd Ansawdd ym mis Rhagfyr 2016 i adolygu ansawdd cyswllt yr heddlu â'r cyhoedd, mewn modd tryloyw ac annibynnol, ar ran ein cymunedau lleol.

Gwahoddir y panel fwyfwy gan yr Heddlu i adolygu meysydd cyswllt ychwanegol yr heddlu, sy'n dyst i werth eu hadborth wrth gefnogi gwelliannau gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i sicrhau'r safonau uchaf yn Dyfed-Powys.

Mae gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd 20 o wirfoddolwyr ieuenctid o wahanol gefndiroedd sy'n rhan o'r Fforwm Ieuenctid. Bydd y Comisiynydd yn cwrdd â'r Fforwm Ieuenctid yn rheolaidd i gael eu barn ar faterion plismona, ac i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. Yn ystod 2019/20 rhoddodd y Llysgenhadon Ieuenctid gefnogaeth i'r Swyddfa gyda'r Arolwg Ieuenctid a'r Gynhadledd Ieuenctid a gynhaliwyd gan Hafan Cymru ar ran y Comisiynydd.

Dywedodd Mr Llywelyn; “Ochr yn ochr â’r unigolion sy’n gwirfoddoli i fy helpu yn fy rôl, mae gwirfoddolwyr hefyd yn chwarae rhan hanfodol yng ngwaith Heddlu Dyfed-Powys, gan gynnwys cadetiaid, swyddogion arbennig, caplaniaid, cefnogi dioddefwyr a gwirfoddolwyr sy’n gwirfoddoli mewn ystod eang o rolau er mwyn cefnogi gwaith staff yr Heddlu a Swyddogion.

“Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yn y gwasanaeth a ddarperir i’n cymunedau, ac yn chwarae rhan hynod bwysig wrth wneud ein cymunedau’n ddiogel.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n holl wirfoddolwyr yn fy swyddfa ac yn yr heddlu. Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr yr holl amser a'r ymrwymiad a rowch i waith yr heddlu a fy swyddfa. "

D I W E DD

Rhagor o wybodaeth:

Caryl Bond