22 Gor 2019

 

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, ac ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn gofyn i ffermwyr am eu barn ar sut y mae Heddlu Dyfed-Powys yn mynd i’r afael â throseddu gwledig.

Mae’r Comisiynydd ynghyd â Dr Wyn Morris o Ysgol Fusnes Aberystwyth a Dr Gareth Norris o Adran Seicoleg y Brifysgol am i ffermwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill rannu eu profiadau am droseddau sy’n gysylltiedig â ffermydd, agweddau'r heddlu tuag at droseddau fferm ac effeithiolrwydd mesurau atal troseddu mewn ardaloedd gwledig.

Mae'r astudiaeth yn cael ei lansio yn ystod Sioe Frenhinol Cymru 22-25 Gorffennaf 2019 ac fe’i ariennir gan swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

Bydd y prosiect ymchwil newydd yn adeiladu ar yr Arolwg Troseddau Gwledig a gynhaliwyd gan y Brifysgol yn 2017 ac a fu’n ffynhonnell ar gyfer Strategaeth Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys 2017-2021.

Caiff ymatebion a sylwadau eu casglu drwy gyfrwng holiadur ar-lein a fydd ar gael tan 30 Medi 2019: aber.onlinesurveys.ac.uk/astudiaeth-trosedd-wledig-2.

Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Dr Morris: “Mae troseddau gwledig yn broblem ddifrifol i ffermwyr, yr heddlu a'n cymunedau yn gyffredinol. Nod ein hymchwil diweddaraf yw crynhoi’r  newidiadau yn ymatebion ac agweddau'r heddlu tuag at droseddau fferm a gwledig ers gweithredu Strategaeth Troseddau Gwledig 2017-2021. Bydd hefyd yn gwerthuso'r ymyriadau a gyflwynwyd gan yr heddlu ers 2017 ac yn llywio mesurau atal trosedd yn y dyfodol. ”

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, “Mae fy swyddfa eisoes wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth yn 2017 wnaeth yn y pendraw, lywio ein Strategaeth Troseddu Gwledig. Mae'n bwysig cael asesiad o effeithlonrwydd ein gwaith, ac mae’r un mor bwysig cael corff annibynnol i gynnal yr asesiad. Rwy’n eich annog i alw draw i’n gweld yn ystod wythnos y Sioe, neu gallwch lenwi’r holiadur arlein. ”

Bydd canfyddiadau'r prosiect ymchwil diweddaraf yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad yn ddiweddarach eleni.

Diwedd

Dolenni: Arolwg Troseddu Gwledig aber.onlinesurveys.ac.uk/astudiaeth-trosedd-wledig-2

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

www.dyfedpowys-pcc.org.uk

Heddlu Dyfed-Powys www.dyfed-powys.police.uk

Plismona Gwledig Heddlu Dyfed-Powys www.dyfed-powys.police.uk/cy/cyngor/plismona-gwledig

Gwybodaeth Bellach: Dr Wyn Morris, Ysgol Fusnes Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth 01970 622513 / dmm@aber.ac.uk Arthur Dafis, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth 01970 621763 / 07841 979452 / aid@aber.ac.uk

Catrin Llwyd, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

01267 226 440 catrin.llwyd.opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk