19 Meh 2018

Preswylwyr Brechfa’n dweud eu dweud yn dilyn rêf anghyfreithlon 

Daeth llond neuadd i gwrdd â Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards, a Mark Collins, Prif Gwnstabl yr Heddlu, ar ôl iddynt gynnal cyfarfod cyhoeddus yn neuadd gymunedol Brechfa yn dilyn y rêf anghyfreithlon dros benwythnos gŵyl y banc.  

Amcangyfrifir bod rhwng 1,000 a 1,500 o loddestwyr wedi heidio i Frechfa dros y penwythnos. Roedd preswylwyr lleol yn flin iawn am y gerddoriaeth uchel, y cynnydd o ran traffig a’r effaith negyddol ar dwristiaeth a’r economi, ac yn poeni y gallai digwyddiad o’r fath gael ei gynnal yno eto yn y dyfodol. 

Cydlynodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, y cyfarfod cyhoeddus nos Iau. Daeth â’r AS lleol a phrif swyddog yr heddlu at ei gilydd i amlinellu’r penderfyniadau gweithredol a gymerwyd gan yr heddlu, a rhoi cyfle i breswylwyr rannu eu profiadau. 

Roedd y Prif Gwnstabl Mark Collins yn cefnogi’r penderfyniadau gweithredol a gymerwyd gan yr heddlu. Esboniodd mai’r peth mwyaf diogel i’w wneud er diogelwch y cyhoedd a’r heddlu oedd rheoli’r digwyddiad. Aeth y Prif Gwnstabl ymlaen i hysbysu preswylwyr bod ei swyddogion yn dilyn nifer o ymholiadau’n weithredol er mwyn adnabod trefnwyr y digwyddiad.

Cadarnhaodd hefyd y byddai’r heddlu a swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n cynnal adolygiad o’r digwyddiadau ac yn adrodd yn ôl i breswylwyr mewn cyfarfod pellach ymhen tua deufis.

Gan siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Collins: "Rwy’n ddiolchgar i gymuned Brechfa am gyfarfod adeiladol, a roddodd gyfle i mi esbonio ymateb yr heddlu i’r rêf anghyfreithlon a gynhaliwyd dros benwythnos gŵyl y banc.

"Mae swyddogion heddlu wedi’u hyfforddi i ymdrin yn ddiogel â heriau o’r fath, a’r tro hwn, y peth mwyaf priodol oedd blaenoriaethu rheoli’r digwyddiad er mwyn lleihau nifer y gloddestwyr a oedd yn cyrraedd yr ardal.

"Hoffwn sicrhau’r gymuned ein bod ni wedi cychwyn ymchwiliad troseddol i drefnwyr y digwyddiad, ac rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid i wella’r darlun gudd-wybodaeth am y digwyddiadau dynamig hyn fel bod modd lleoli adnoddau mor effeithiol â phosibl.

"Yn dilyn y digwyddiad hwn, rydyn ni nawr yn adolygu ymateb yr heddlu i rêfs anghyfreithlon er mwyn lleihau eu heffaith ar breswylwyr lleol.”

Ychwanegodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

"Fel ymateb uniongyrchol i bryderon lleol, trefnais gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Brechfa nos Iau. Rwy’n ymwybodol iawn o effaith y digwyddiad anghyfreithlon ar breswylwyr lleol, ac mae’n bwysig ein bod ni’n cydweithio er mwyn dysgu’r gwersi o ddigwyddiadau’r penwythnos.

"Gyda’n gilydd, sefydlom set o gamau gweithredu clir i’w symud ymlaen, ac rwyf wedi derbyn sicrwydd gan y Prif Gwnstabl bod Heddlu Dyfed-Powys wrthi’n adolygu ei brotocolau ymateb, gyda chanllawiau newydd i’w cyhoeddi maes o law.

"Rwyf am ddiolch i bawb a oedd yn bresennol nos Iau i leisio eu pryderon – mae’n amlwg bod cydweithio â chymunedau gwledig a phartneriaid yn allweddol er mwyn atal digwyddiadau digroeso o’r fath, gan gynnwys sefydlu sut y gellir gwneud ardaloedd yn anghroesawgar i ddigwyddiadau anghyfreithlon, ac ar yr un pryd, parhau’n fannau harddwch apelgar.”

Mr Edwards, Aelod Seneddol, a gadeiriodd y digwyddiad.

Gan siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd: “Roedd y cyfarfod hwn yn hollbwysig er mwyn gwir werthfawrogi pryderon preswylwyr, yn ogystal â’u hofnau dilys y gallai hyn ddigwydd eto os nad yw gwersi’n cael eu dysgu o ddigwyddiad y penwythnos.

"Nodwyd nifer o feysydd allweddol, megis sicrhau bod y llwybrau mynediad priodol i’r goedwig yn cael eu cau’n iawn, a sut y gall y gymuned gydweithio er mwyn rhoi cudd-wybodaeth i’r heddlu.

"Ar ôl trafodaeth agored a llawn, daeth y cyfarfod i ben ar nodyn gadarnhaol, gyda set o gamau gweithredu clir ac ymrwymiad gan yr heddlu i ddod nôl i’r gymuned ymhen deufis i ddiweddaru preswylwyr ynglŷn â’r ymchwiliad, yr adolygiad gweithredol, a’r mesurau fydd yn cael eu rhoi mewn grym yn y dyfodol.”