24 Maw 2015
Bydd pobl ifainc a chynghorwyr lleol ymhlith y bobl o Ogledd Sir Benfro y bydd Christopher Salmon, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn ymweld â nhw ar 2 Ebrill.
Ar ben hynny, bydd yn cwrdd ag unigolion a grwpiau bach yn breifat mewn cyfres o sesiynau 20 munud yr un yn ystod ei ddiwrnod o weithgarwch yn yr ardal.
Dywedodd Mr Salmon: “Drwy siarad â mi, mae gan y cyhoedd lais uniongyrchol yn ein system cyfiawnder troseddol. Mae pobl leol yn deall materion lleol yn well na neb, ac rwyf eisiau gwybod sut mae eu meddyliau’n esblygu.”
Ymhlith y rhai fydd yn cwrdd â Mr Salmon yw pobl ifainc a gwirfoddolwyr sy’n gysylltiedig ag Ymddiriedolaeth Pobl Ifainc POINT, ac aelodau o Gyngor Dinas Tyddewi a Chyngor Tref Abergwaun. Hefyd, mae’n gobeithio trafod plismona gyda Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu lleol.
Mae'r Comisiynydd yn goruchwylio cyllideb flynyddol o tua £96 miliwn ar gyfer plismona yn Nyfed-Powys. Ac yntau'n llais etholedig y cyhoedd, mae'n sicrhau bod yr heddlu'n atebol i'r cymunedau a wasanaethir ganddo.
Mae'n gweithio mewn partneriaeth ar draws ystod o asiantaethau i sicrhau ymagwedd gydlynedig tuag at atal a lleihau troseddu.
Yn ystod ei 2 flynedd gyntaf yn y swydd, mae ei gyflawniadau'n cynnwys mwy o heddweision, gwella mynediad at yr Heddlu, lleihau costau plismona, a rhannu tua £250,000 rhwng gwahanol fentrau cymunedol drwy Gronfa'r Comisiynydd.
Mae Mr Salmon wedi trefnu 12 diwrnod Eich Llais yn 2015 – tri ym mhob un o siroedd Dyfed Powys, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, a Phowys.
Mae’r amserlen yn cynnwys: Aberystwyth; Caerfyrddin a Sanclêr; Llanfair-ym-Muallt ac Aberhonddu; Cei Newydd ac Aberaeron. Ym mis Ionawr, ymwelodd â De Sir Benfro, ardal Llanbedr Pont Steffan ym mis Chwefror, ac ardaloedd Llanandras a Llanelli fis Mawrth.
Er mwyn trefnu apwyntiad i gyfarfod â’r Comisiynydd yn Nhyddewi, cysylltwch â’i swyddfa: Ffôn 01267 226440, e-bost opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk, trydar @DPOPCC.
Tyddewi ac Abergwaun: Amserlen Eich Llais Amserlen fras
Dydd Iau 2 Ebrill
1030-1130 Cwrdd ag aelodau o Gyngor Dinas Tyddewi
1145-1245 Cymorthfeydd cyhoeddus, cyfarfodydd 20 munud o hyd drwy apwyntiad – Siambr Cyngor Sir Tyddewi, Neuadd Goffa
1245-1345 Taith gerdded o gwmpas Tyddewi gyda SCCH
1530-1630 Cwrdd ag Ymddiriedolaeth Pobl Ifainc POINT
1645-1745 Cwrdd ag aelodau o Gyngor Tref Abergwaun