04 Chw 2020

Ar ddydd Sadwrn 25 Ionawr, cynhaliwyd seremoni gloi yn y Drenewydd er mwyn nodi ymadawiad yr Angel Cyllyll. Daeth cannoedd o bobl i gymryd rhan mewn gorymdaith olau cannwyll.

 

Y Drenewydd oedd y lle cyntaf yng Nghymru i groesawu’r Angel Cyllyll, wrth iddo sefyll yn fawreddog tu allan i Galeri Oriel yn y Drenewydd tan 29 Ionawr 2020. Roedd hyn diolch i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a Joy Jones, Cynghorydd Sir y Drenewydd, ynghyd â phobl leol eraill, a ddaeth at ei gilydd i wneud cais llwyddiannus i ddod â’r Gofeb Genedlaethol yn erbyn Trais ac Ymddygiad Ymosodol i Gymru am y tro cyntaf.

 

Roedd arhosiad yr Angel yn y Drenewydd yn achlysur pwysig iawn gan mai’r Drenewydd oedd y lleoliad cyntaf yng Nghymru i gamu ymlaen mewn ymgais i symbylu’r neges atal trais ac ymddygiad ymosodol ar gyfer y gymuned gyfan. Drwy ddod â’r Angel i’r Drenewydd, ymrwymodd Cyngor Sir Powys a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i gynnal 28 diwrnod o raglenni a gweithdai addysgol dwys. Hefyd, dyna’r rhanbarth cyntaf i ymrwymo i dargedu a dirprwyo 10,000 o Hyrwyddwyr Atal Trais. Mae’r ymgyrch hon yn cynnwys ysgolion a grwpiau ieuenctid drwy alluogi pobl ifainc i sefyll yn erbyn pob math o drais ac ymddygiad ymosodol, nid dim ond troseddau cyllyll. Mae sawl ysgol ym Mhowys wedi ymweld â’r Angel Cyllyll, ac wedi elwa o’r gweithdai a drefnwyd – yn arbennig Sgwrs Ysgolion ymgyrch Fearless yr elusen Crimestoppers, a ariennir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

 

Er nad oes unrhyw ffigurau swyddogol wedi’u cofnodi ar gyfer nifer y bobl sydd wedi ymweld â’r gofeb, mae trefnwyr a gwirfoddolwyr yn amcangyfrif bod miloedd wedi ymweld â hi yn ystod y dydd a’r nos, gyda nifer yn teithio i’r Drenewydd o bob cwr o’r DU.

 

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Rwy’n gobeithio y gallaf hawlio mai fi oedd y cyntaf i groesawu’r Angel yn Gymraeg. Teimlaf yn llawn cyffro am yr hyn yr ydym wedi llwyddo i’w gyflawni yma yn y Drenewydd dros yr wythnosau diwethaf. Ardal Heddlu Dyfed-Powys yw’r fwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr. Mae gennym lefelau trosedd isel, lefelau troseddau treisgar isel, ac yn sicr, mae gennym lefelau troseddau cyllyll isel, ond nid ydym yn ddiogel rhag hynny.

 

“Rwy’n gweld yr ardal hon fel rhywle sydd ar y rheng flaen o ran atal troseddolrwydd rhag treiddio i mewn i’n cymunedau. Mae ein neges Angel Cyllyll yn ymwneud ag atal - rwy’n awyddus i weld Dyfed-Powys yn parhau fel y lle mwyaf diogel, ac rwyf eisiau i’n pobl ifainc deimlo’n ddiogel a sicr. Rhaid i gyflwyno’r Angel Cyllyll i’r Drenewydd fod yn gatalydd i hyrwyddo negeseuon atal allweddol. Byddwn ar fai pe na bawn i’n diolch i’r Cynghorydd Joy Jones am fod yn arweinydd cymuned lleol sy’n gwthio’r ffiniau ac sy’n gwneud i bethau digwydd ar y tir. Rwy’n gobeithio y bydd y gymuned fan hyn yn y Drenewydd ac mewn rhannau eraill o Bowys yn cymryd y cyfle hwn i ddeall y neges allweddol hollbwysig am atal trosedd, yn arbennig mewn perthynas â thrais difrifol a throseddau cyllyll. Ni fydd unrhyw fath o drais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei oddef.”

 

Yn ystod ymweliad yr Angel, gosodwyd bin amnest cyllyll wrth ei ymyl, gan annog pawb i ildio unrhyw gyllyll er mwyn arbed bywydau. Gwagiwyd y bin cyn i’r Angel adael. Roedd y bin yn llawn. Cadarnhaodd Canolfan Gwaith Haearn Prydain y bydd yn creu darn o’r llafnau sydd wedi’u hildio. Ar ôl ei gwblhau, bydd y darn hwn yn cael ei arddangos ym Mhowys.

 

Mae’r adborth a dderbyniwyd gan y rhai sydd wedi ymweld â’r Angel Cyllyll yn siarad cyfrolau. Dyma ddetholiad o’r sylwadau, ar ffurf ddienw:

 

“Mor bwerus. Mae’n anfon neges mor bwysig. Mae’n dda iawn gweld Angel heddwch yn y Drenewydd.”

 

“Mae’n peri i rywun feddwl ac yn codi ymwybyddiaeth o’r ffaith nad yw unrhyw fath o drais yn dderbyniol.”

 

“Anhygoel a phwerus – yn sicr, roedd yn werth ymweld.”

 

“Mae hyn mor bwerus o ran annog pobl i ollwng y gyllell. Da iawn, y Drenewydd, am groesawu’r Angel.”

 

“Mae’r angel yn deyrnged arbennig i bawb sydd wedi dioddef neu sydd wedi colli eu bywyd oherwydd cyllyll.”

 

“Ysbrydoledig – dylai pawb ymweld â’r Angel.”

 

Mae Dafydd Llywelyn a’i dîm wedi derbyn y Wobr Genedlaethol Atal Trais i gydnabod ei effaith gadarnhaol ar sir Powys, a chynorthwyo â thaith y Gofeb Genedlaethol yn erbyn Trais ac Ymddygiad Ymosodol o gwmpas y DU.

 

Diwedd