25 Ebr 2018
Ar Ebrill 30ain bydd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn ymgymryd â Thaith Seiclo Elusennol i ymweld â phob Gorsaf Heddlu o fewn Dyfed-Powys er mwyn codi arian i lansio Safer Dyfed-Powys Diogel. Elusen newydd yw hon y mae y Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ymddiriedolwyr iddi.
Prif amcan y daith seiclo yw codi ymwybyddiaeth a chyllid ar gyfer yr elusen, a bydd yr arian hwn yn ei dro’n cael ei roi’n ôl i gymuned Dyfed-Powys drwy amrywiol lwybrau sy’n cefnogi amcanion allweddol yr elusen.
Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad, diolch!
https://www.justgiving.com/campaigns/charity/saferdyfedpowysdiogelach/tourdeforce
Pwrpas yr elusen yw cefnogi atal a lleihau ofn trosedd ar draws Dyfed-Powys, drwy weithio gyda grwpiau cymunedol, elusennau a Heddlu Dyfed-Powys i ymgymryd â rhaglenni a phrosiectau atal trosedd ac anrhefn. Amcan pwysig arall yr elusen yw cefnogi teuluoedd, unigolion a grwpiau bregus sydd wedi dod yn ddioddefwyr trosedd ac sydd wedi eu heffeithio gan drosedd neu ofn trosedd.
Rhwng y 30ain o Ebrill a’r 4ydd o Fai, bydd y Comisiynydd a'i dîm o wirfoddolwyr o blith Staff a Swyddogion yr Heddlu yn pasio drwy eich ardal. Beth am ddod allan i chwifio arnyn nhw er mwyn rhoi hwb iddynt ar hyd y daith?
DIWRNOD 1
- PC Llangynnwr Hendy-gwyn ar Daf
- Arberth
- Llanussyllt
- Dinbych-y-pysgod Doc Penfro
- Aberdaugleddau
- Hwlffordd
- Tyddewi
- Abergwaun
DIWRNOD 2
- Abergwaun Crymych
- Aberteifi
- Castell Newydd Emlyn
- Llandysul
- Lampeter
- Aberaeron
- Aberystwyth
DIWRNOD 3
- Aberystwyth Machynlleth
- Llanfyllin
- Y Trallwng
- Y Drenewydd
- Llanidloes
- Rhayadr
- Llandrindod
DIWRNOD 4
- LlandrindodLlanandras
- Llanfair ym Muallt
- Y Gelli Gandryll
- Crug Hywel
- Aberhonddu
DIWRNOD 5
- Aberhonddu
- Ystradgynlais
- Llanymddyfri
- Llandeilo
- Rhydaman
- Cross Hands
- Llwynhendy
- Llanelli
- Porth Tywyn
- Cydweli
- PC Llangynnwr
Mae cyfanswm o 41 gorsaf heddlu o amgylch ardal Dyfed-Powys. Beth am ddod allan i chwifio arnyn nhw er mwyn rhoi hwb iddynt ar hyd y daith?