26 Chw 2020

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn ymfalchio ar ddylanwad menter newydd yn Llanelli – Seaside Kicks.

 Yn dilyn derbyn nawdd gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, mae menter newydd i ieuentid wedi ei sefydlu mewn partneriaeth a Chlwb Pêl-droed Abertawe. Lansiwyd Seaside Kicks yn Llanelli ym mis Ionawr 2020 er mwyn cael ieuenctid ardal Glanymor a Tyisha i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol.

Bellach mae dros 150 o ieuenctid yr ardal yn cymryd rhan mewn gweithgraeddau ymarferol amrwyiol yn wythnosol gyda’r Seaside Kicks. Mae’r ieuenctid yn cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi pel-droed yn ogystal a sesiynau addysgiadol, anffurfiol sy’n mynd i’r afael a nifer o faterion yn ymwneud a throseddau amrywiol.

Wrth ymweld ag un o’r sesiynau sy’n cael eu cynnal ar gae 3G Ysgol Penrhos, Llanelli ar 25 Chwefror 2020, dywedodd Dafydd Llywelyn “Mae’n fraint i mi gael bod yma i weld drosof fy hun y dylanwad cadarnhaol mae menter fel Seaside Kicks yn ei gael ar ieuenctid, a’r gymuned ehangach. Fel un sydd yn ymddiddori mewn chwaraeon, ac wedi chwarae peldroed ar sawl lefel yn fy ieuenctid, rwy’n llawn ymwybodol o ddylanwad y mae chwaraeon ac ymarfer corff yn ei gael ar iechyd a lles unigolion a chymunedau yn gyffredinol.”

Mae’r fenter yn cael ei rhedeg drwy raglen genedlaethol ‘Kicks’ Uwch Gynghrair Lloegr, ac sy’n cael ei darparu yn lleol gan Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pel-droed Dinas Abertawe. Nod y rhaglen yw defnyddio pel-droed a chwaraeon yn gyffredinol i ysbrydoli ieuenctid sy’n byw mewn ardaloedd di-frenitiedig.

Dywedodd Craig Richards o Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, “Mae Premier League Kicks yn darparu sesiynau pêl-droed wythnosol am ddim a gweithdai addysgol i bobl ifanc, gan roi cyfleoedd, cefnogaeth a llwybrau iddynt gyrraedd eu llawn potensial, a'u dargyfeirio rhag trosedd a throseddwyr. Roedd yn bleser croesawu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn i sesiwn Seaside Kicks i weld cymaint o bobl ifanc yn cael hwyl mewn amgylchedd ddiogel”.

Ychwanegodd Sean Rees, Cynghorydd Tref Llanelli ar gyfer Ward Glanymor, “Roeddem yn falch iawn o groesawu’r Comisiynydd i Seaside Kicks. Mae ei gyllid wedi helpu i wneud hyn I ddigwydd. Mae hwn yn waith partneriaeth ar ei orau. Mae’n bleser i allu gweld cydweithio rhwng Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Heddlu Dyfed Powys, Ysgol PenRhos, Clwb Peldroed Seaside, Cyngor Tref Llanelli a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar brosiect mor gyffrous.

“O ystyried ei lwyddiant ysgubol, yr her nesaf nawr yw ceisio gwneud ‘Kicks’ yn brosiect parhaol yng Nghymuned Glanymor”.

Mae’r buddsoddiad yn Seaside Kicks yn rhan o fuddsoddiad ehangach y Comisiynydd yn ardal Glanymor a TyIsha, ardal sydd wedi ei hadnabod fel un o’r adrdaloedd mwyaf di-frentiedig yng Nghymru. Mae’r Comisiynydd wedi neullto cyllideb o £50,000 ar gyfer brosiectau a mentrau cymunedol yn yr ardal.

 

DIWEDD