10 Chw 2021

 

 

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn wedi lansio arolwg cyhoeddus yn unol â gwaith Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr Dyfed-Powys i ddarganfod sut mae Covid-19 wedi effeithio ar wasanaethau y mae'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan droseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu cyrchu.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn gweithredu fel llais dioddefwyr yn ardal Dyfed-Powys, ac mae wedi ymrwymo i sicrhau y darperir gwasanaethau i bawb sy'n dioddef trosedd.

Dywedodd Mr Llywelyn, “Mae’r ymrwymiad hwn wedi bod yn bwysicach nag erioed yn ystod pandemig Covid-19, sydd wedi herio gwasanaethau mewn ffordd na phrofwyd erioed o’r blaen, ar adeg pan mae dioddefwyr wedi bod angen y gefnogaeth fwyaf.”

Mae'r Comisiynydd a'i dîm wedi gweithio'n galed i sicrhau bod darparwyr gwasanaeth dioddefwyr wedi derbyn y gefnogaeth a'r cyllid ychwanegol sydd eu hangen arnynt er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i ddioddefwyr yn ystod y pandemig.

Ychwanegodd Mr Llywelyn, “Ar y cam hwn o’r pandemig, mae’n bwysig ein bod yn clywed gan y rhai sydd wedi defnyddio neu wedi ceisio cyrchu ein gwasanaethau yn ystod yr amser hwn, er mwyn deall eich profiadau o’r hyn sydd wedi gweithio a’r hyn sydd wedi bod yn heriol.”

Felly, datblygwyd arolwg byr ar-lein, y gallwch ei gyrchu trwy'r dolenni canlynol.

Cymraeg: https://www.surveymonkey.co.uk/r/TNFDGD3

Saesneg: https://www.surveymonkey.co.uk/r/TCW7W6R

Fel arall, cysylltwch â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar 01267 226440 / OPCC.Communication@dyfed-powys.pnn.police.uk i ofyn am gopi papur o'r arolwg, neu os hoffech fynd trwy'r arolwg dros y ffôn.

Bydd yr arolwg yn cau ddydd Sul 21 Chwefror, a bydd yr adborth a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio i barhau i wella ein gwasanaethau i ddioddefwyr yn ystod yr amseroedd heriol hyn.