16 Mai 2019

Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n ennill gwobr genedlaethol arobryn am ei chynllun ymwelwyr annibynnol â dalfeydd

 

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi ennill gwobr genedlaethol arobryn am ansawdd ei Chynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd.

Yn Nyfed-Powys, mae 26 gwirfoddolwr – Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd – yn ymweld â dalfeydd heddlu’n ddirybudd er mwyn gwirio hawliau, haeddiannau, lles ac urddas carcharorion mewn dalfeydd heddlu. Maen nhw’n adrodd ar eu canfyddiadau i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu, sydd, yn eu tro, yn dal y Prif Gwnstabl i gyfrif.

Cyflwynwyd Gwobrau Sicrhau Ansawdd cyntaf y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd mewn seremoni yn Nhŷ’r Arglwyddi ddydd Mercher 15 Mai. Cymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi, arwain a chynrychioli cynlluniau ymwelwyr annibynnol â dalfeydd a reolir yn lleol. Mae cynlluniau’n rheoli timoedd o wirfoddolwyr annibynnol sy’n ymweld â charcharorion mewn dalfeydd heddlu.

Roedd pedair lefel wobrwyo, ac roedd hi’n dda iawn gan Gynllun Dyfed-Powys dderbyn y safon aur, sy’n golygu bod y cynllun yn cynnig safon ardderchog o ran ymweld â dalfeydd a rheoli gwirfoddolwyr. Sefydlwyd y cynllun yn Nyfed-Powys yn 2001, ac ers iddo gael ei gyflwyno, mae miloedd o ymweliadau wedi’u cwblhau mewn dalfeydd ledled yr ardal heddlu.

Gan groesawu’r wobr, dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys:

 

“Rwy’n falch iawn bod ein Cynllun wedi’i gydnabod fel un safon aur. Mae ymwelwyr annibynnol â dalfeydd wedi cyflwyno tryloywder i brosesau dalfeydd yr heddlu, ac mae gan ein gwirfoddolwyr rôl hollbwysig o ran sicrhau bod hawliau dynol carcharorion yn cael eu cynnal a bod Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 yn cael ei dilyn. Mae’r brwdfrydedd, cefnogaeth ac ymrwymiad parhaus a ddangosir gan ein holl ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn allweddol i lwyddiant y Cynllun, a hoffwn ddiolch i bawb ohonynt yn bersonol.”

 

Dywedodd Shirley Matthews, Ymwelydd Annibynnol â Dalfeydd ar gyfer Dyfed-Powys:

“Rwy’n falch fy mod i wedi fy newis i gynrychioli ein tîm yn y gwobrau, a bod gwaith da’r grŵp yn ein hardal wedi’i gydnabod. Rwy’n falch hefyd bod y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn helpu i gynnal safonau lles ar gyfer carcharorion ac yn cefnogi staff dalfeydd i gyflawni eu dyletswyddau’n ddiogel.”

 

Dywedodd Katie Kempen, Prif Weithredwr y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd: "Mae Cynlluniau Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn sicrhau fod gan y cyhoedd oruchwyliaeth o faes plismona lle mae llawer o bwysau ac sy’n aml yn guddiedig. Mae’r gwobrau hyn yn dangos sut mae cynlluniau lleol yn defnyddio adborth gan wirfoddolwyr i wneud newidiadau a sicrhau bod dalfeydd yr heddlu’n llefydd diogel ac urddasol i bawb. Rwy’n llongyfarch cynlluniau ar eu llwyddiannau.”

 

 

DIWEDD