28 Rhag 2018

Mae Teledu Cylch Cyfyng yr Heddlu nawr yn weithredol yn Aberdaugleddau

 

Mae pedwar camera teledu cylch cyfyng nawr wedi eu gosod yn Aberdaugleddau, Sir Benfro.

 

Maent wedi eu lleoli yn Stryd Siarl Uchaf, Stryd Siarl Isaf, Teras Hamilton a Great North Road.

 

Cyflawnwyd y gwaith o’u gosod dros y mis diwethaf ac mae’r camerâu nawr yn fyw ac yn recordio. Byddant yn cael eu monitro’n ganolog ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys.

 

Cafodd y gwaith hwn ei gyflawni fel rhan o ailfuddsoddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, yn y ddarpariaeth teledu cylch cyfyng ar draws ardal yr heddlu, sef Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys.

 

Aberdaugleddau yw’r seithfed dref o fewn cynllun sy’n cynnwys 17 lleoliad i elwa o’r prosiect ail-fuddsoddi hwn.

 

Penderfynwyd ar leoliadau’r camerâu drwy fapio dadansoddiadau trosedd ac mewn ymgynghoriad gydag asiantaethau partner.

 

Meddai Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Rwyf yn falch iawn o fod yn gallu dweud bod tref arall wedi elwa o fy adduned i ail-fuddsoddi mewn teledu cylch cyfyng. Roedd dau o fy nhîm allan yn ardal Aberdaugleddau ar y 15fed o Dachwedd - wrth i’r camerâu newydd gael eu gosod - yn ymgysylltu gyda phreswylwyr a busnesau ar fy rhan. Roedd yr adborth a dderbyniwyd yn gadarnhaol iawn: mae’r gymuned yn teimlo’n llawer diogelach wrth i deledu cylch cyfyng ddychwelyd i’r ardal. Rwyf yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn cael ei drosglwyddo ymhellach eto dros y misoedd nesaf.”

 

Mae’r prosiect yn cael ei reoli gan dîm penodedig yn Heddlu Dyfed-Powys sy’n gweithio yn y cefndir i sicrhau fod y prosiect yn parhau i symud yn ei flaen. Mae hyn yn cynnwys gweithio’n agos gyda’r contractwyr Baydale, a enillodd y contract ar gyfer y rhaglen osod drwy broses gaffael.

 

Meddai Mark Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys: “Rydw i wrth fy modd fod pedwar camera wedi cael eu gosod yn Aberdaugleddau mewn pryd ar gyfer y paratoadau at y Nadolig. Mae holl waith caled Tîm y Prosiect yn llwyddo ac mae teledu cylch cyfyng nawr yn fyw ar draws saith tref yn ardal yr heddlu. Bydd camerâu teledu cylch cyfyng yn ein helpu i atal a datrys troseddau yn y mannau lle’r profwyd fod fwyaf eu hangen.”

 

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a’i dîm wedi ymweld ag Aberdaugleddau i siarad â pherchnogion busnes lleol ynghylch y prosiect teledu cylch cyfyng ac i ganfod eu barn ynghylch ailosod camerâu yn y dref. Rhoddodd pob un adborth cadarnhaol gan gynnwys nodi eu bod yn teimlo y byddai hyn yn dod â thawelwch meddwl i fusnesau ac y dylai helpu gyda materion yn gysylltiedig ag economi hwyr y nos yn y dref.

 

Meddai David Morgan, Dirprwy Reolwr siop Lidl, Aberdaugleddau: “Bydd y camerau teledu cylch cyfyng o fantais i’r gymuned a, gyda gobaith, yn atal trosedd. Beth bynnag sy’n helpu’r gymuned, gorau i gyd.”

 

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect teledu cylch cyfyng yma. (https://bit.ly/2ntpVlU)