12 Mai 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn wedi pwysleisio bod cyfyngiadau teithio yn parhau mewn lle yn Dyfed-Powys, ac ar draws Cymru, ynghanol pryderon y gallai cyhoeddiad Llywodraeth y DU dros y penwythnos greu dryswch o blith y cyhoedd.

Ddydd Sul, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod pobl yn Lloegr bellach yn cael teithio y tu allan i'w hardal leol i wneud ymarfer corff. Nid yw hyn yn wir yng Nghymru.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, “Fy mhryder fwyaf yn hyn i gyd yw y gallem nawr weld mewnlifiad o bobl yn teithio i mewn i ardal yr Heddlu, ac wrth wneud hynny, peryglu ein cymunedau gan fygwth lledaenu'r firws i bobl fregus a'r cyhoedd yn gyffredinol”.

Yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fân newidiadau ei hun i'r mesurau cloi yng Nghymru, a gellir dod o hyd i fanylion ac arweiniad ar eu gwefan, gov.wales/coronavirus, ond mae cyfyngiadau teithio yn dal i fod yn eu lle. Ar gyfartaledd, mae 47% o bobl sydd wedi cael rhybudd cosb gan Heddlu Dyfed-Powys am dorri rheolau teithio wedi bod o'r tu allan i ardal yr heddlu. Fodd bynnag, dros benwythnos gwyl y banc diweddar, bu cynnydd sylweddol yn y cyfartaledd hwn.

Ychwanegodd Mr Llywelyn, “Mae cyfyngiadau teithio yn dal i fod mewn grym yng Nghymru ac mae'r heddlu yma yn rhagweithiol yn eu dull o ymgysylltu, addysgu, annog a gorfodi'r mesurau.

“Er ei bod yn destun pryder ar un olwg i weld bod cymaint o hysbysiadau cosb wedi’u rhoi yn ein hardal, rwy’n parhau i gefnogi’n agwedd y Prif Gwnstabl Mark Collins ac ymateb yr Heddlu i’r mesurau, ac rwy’n ddiolchgar iawn am eu holl gwaith caled yn sicrhau ein diogelwch yn ystod yr amseroedd digynsail hyn.

“Hoffwn bwysleisio unwaith eto’r wythnos hon, mai argyfwng cenedlaethol yw hwn yn hytrach na gwyliau cenedlaethol”.

DIWEDD

Am ragor o fanylion;

Gruffudd.ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk