11 Awst 2020

Mae tri chamera newydd yn cael eu gosod yng Nghastellnewydd Emlyn fel rhan o adduned allweddol Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, i ailfuddosddi mewn system gyhoeddus o Deledu Cylch Cyfyng.

Bydd y gwaith ar y rhaglen osod yn y dref yn cychwyn ddydd Llun 10 Awst.

Bydd camerâu’n cael eu gosod ar Stryd y Sycamorwydden, Sgwâr Emlyn a Heol y Bont. Penderfynwyd ar leoliadau’r camerâu yn dilyn adolygu dadansoddiad o batrymau troseddu ac mewn ymgynghoriad gydag asiantaethau partner eraill.

Mae’r gwaith yn cael ei gyflawni gan y contractwyr Baydale Control Systems Ltd ac mae’r camerâu technoleg uwch yn cael eu cyflenwi gan Hikvision UK & Ireland.

Meddai’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn: “Aberhonddu yw’r dref nesaf ym Mhowys i elwa o’m haddewid etholiad allweddol i ailosod TCC mewn mannau cyhoeddus. Mae hon yn dref brysur, ac rwy’n hyderus y bydd y camerâu’n profi’n ased gwerthfawr ar gyfer cadw’r dref yn ddiogel drwy ddatrys troseddau.”

“Mae’r prosiect TCC yn parhau ledled yr ardal heddlu, gyda thri chamera hefyd wedi’u gosod yng Nghastellnewydd Emlyn wythnos diwethaf. Nifer y trefi yr ydym yn awr wedi’u cynnwys yn y prosiect TCC yw 23.

“Rwy’n hyderus y bydd y camerâu’n profi’n ased gwerthfawr ar gyfer cadw’r dref yn ddiogel drwy ddatrys troseddau.”

Meddai Comander Ceredigion, yr Uwcharolygydd Robyn Mason: “Mae hwn yn gam cadarnhaol i Gastellnewydd Emlyn. Bydd cael y camerâu yn eu lle wrth inni weld cynnydd o ran yr ymwelwyr i’r ardal yn ystod cyfnod y gwyliau yn ein helpu i gadw pawb mor ddiogel â phosibl ac yn ein cynorthwyo i gynnal ymchwiliadau o ansawdd pan fod angen.”

Mae’r Prosiect TCC yn dod â dros 120 o’r camerâu diweddaraf i drefi ar draws ardal yr heddlu, sef Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys.

Heddlu Dyfed-Powys

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn diogelu’r bobl sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Mae’r ardal yn ymestyn dros hanner wyneb Cymru, ac mae ganddi boblogaeth o dros 488,000, sy’n cynyddu’n sylweddol bob blwyddyn gyda dyfodiad twristiaid.

Useful Links