03 Meh 2019
03/06/2019
Mae'n Wythnos Gwirfoddolwyr - Gallwch wneud gwahaniaeth!
Gwirfoddolwch gyda Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i gael cyfle i ddweud eich dweud am wasanaethau plismona lleol.
Mae'n Wythnos Gwirfoddolwyr 2019 yr wythnos hon - cyfle i ddathlu cyfraniadau gwych gan wirfoddolwyr, i ddiolch i bob gwirfoddolwr, ac i hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli cyffrous.
Ar hyn o bryd, mae dros 60 o bobl o Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys yn gwirfoddoli i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.
Maent yn gwirfoddoli mewn amrywiaeth o rolau; fel Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa, Ymwelwyr Er Lles Anifeiliaid, Aelodau'r Panel Sicrhau Ansawdd, ac yn rôl ddiweddaraf y Swyddfa, fel Llysgenhadon Ieuenctid.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn: “Hoffwn ddiolch yn bersonol i'n holl wirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser i gyflawni'r rolau hanfodol hyn. Mae pob un ohonynt yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gynnal safonau uchel o fewn Heddlu Dyfed-Powys. Diolch.”
Mae Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa y Comisiynydd yn darparu gwiriad annibynnol ar les carcharorion, yr amodau y maent yn cael eu cadw ynddynt, ac yn sicrhau bod hawliau'r carcharorion yn cael eu cynnal.
Meddai Ymwelydd Annibynnol â’r Ddalfa, John Jones: “Rwy’n credu bod Staff y Ddalfa yn yr heddlu yn derbyn yr angen am y gwaith craffu a wnawn drwy’r rôl wirfoddol hon, ac maent bob amser yn barod i drafod pethau gyda ni – mae hyn yn gwneud i mi deimlo’n rhan o rywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth.”
Ychwanegodd Dafydd Llywelyn: “Rydw i’n hynod falch o waith yr Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa, gan fod y Cynllun newydd dderbyn Gwobr Lefel Aur mewn Sicrwydd Ansawdd gan Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â’r Ddalfa.”
Mae Ymwelwyr Er Lles Anifeiliaid yn cynnal gwiriadau annibynnol ar bob ci heddlu i sicrhau eu bod yn cael eu cadw, eu hyfforddi a'u cludo mewn amodau priodol, er mwyn gallu perfformio hyd eithaf eu gallu tra byddant ar ddyletswydd.
Dywedodd Liz Davies, un o Ymwelwyr Lles Anifeiliaid y Comisiynydd: “Rwy'n falch o allu helpu Heddlu Dyfed-Powys i sicrhau bod amodau lles y cŵn gyda'r gorau y gall yr Heddlu ei gynnig: Mae'r safon yn uchel iawn.”
Mae'r Panel Sicrhau Ansawdd yn craffu ar gysylltiad yr Heddlu â'r cyhoedd. Er enghraifft, cwynion, achosion Stopio a Chwilio a'r ffordd y mae'r heddlu’n ymdrin â galwadau i Ganolfan Gyfathrebu'r Heddlu h.y. galwadau 101 a 999.
Dywedodd Ian Jones, aelod o'r Panel Sicrhau Ansawdd: “Rwy'n gobeithio y gall fy nghyfraniad i'r Panel helpu'r rhai sy'n byw yn ardal yr heddlu i gael sicrwydd bod pobl leol yn ymwneud â'r gwaith o oruchwylio'r Heddlu a chraffu arno.”
Ychwanegodd Dafydd Llywelyn: “Rydw i hefyd yn blês i fedru dweud bod ein gwirfoddolwyr hefyd wedi derbyn enwebiad arall am wobr. Cafodd y Panel ei enwebu yn y categori ‘Gwirfoddolwr y Flwyddyn’ yn ystod Noson Wobrwyo Flynyddol Heddlu Dyfed-Powys. Da iawn chi!"
Mae grŵp mwyaf newydd o wirfoddolwyr y Comisiynydd, sef ei Lysgenhadon Ieuenctid, yn aelodau o'i Fforwm Ieuenctid. Dywedodd Catrin Howells-Lloyd, Cynghorydd Polisi ac Ymgysylltu'r Comisiynydd sy'n goruchwylio'r Fforwm: "Mae'r Fforwm Ieuenctid yn galluogi pobl ifanc i gymryd rhan a chael cyfle i ddweud eu dweud am blismona a throseddu yn eu hardal leol. Mae Llysgenhadon ieuenctid yn cefnogi, yn herio ac yn llywio gwaith y Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Heddlu Dyfed-Powys, gan helpu'r Comisiynydd a'r heddlu i wneud gwell penderfyniadau i ddiwallu anghenion pobl ifanc.”
Ychwanegodd Dafydd Llywelyn: “Rydym bob amser yn awyddus i glywed gan unigolion sydd â diddordeb yn y rolau gwirfoddoli hyn. Os hoffech wybod mwy, neu os hoffech ymuno â'n tîm, cysylltwch â'm Swyddfa.”
Mae rhagor o wybodaeth am bob un o'r rolau gwirfoddoli ar gael ar wefan y Comisiynydd yn www.cymru.gov.uk http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-swyddfa/cynlluniau-gwirfoddoli/
Diwedd
Nodyn i olygyddion - Gellid gwneud trefniadau ar gyfer cyfweliadau / trafodaethau gyda'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu neu gydlynydd y cynllun gwirfoddoli. Mae astudiaethau achos gwirfoddolwyr hefyd ar gael.
Manylion cyswllt - Catrin Howells-Lloyd / Hannah Hyde, Cynghorydd Polisi ac Ymgysylltu neu Caryl Bond, Swyddog Cymorth Sicrwydd (Cydlynydd y Cynllun) ar 01267 226440 / OPCC.Communication@dyfed-powys.pnn.police.uk
Rhagor o wybodaeth - am ragor o wybodaeth am y gwahanol gynlluniau gwirfoddoli, cliciwch yma http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-swyddfa/cynlluniau-gwirfoddoli/