15 Hyd 2018

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn gwrando ar lais pobl ifanc yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb

Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn yn cefnogi gweithgareddau sydd wedi'u hanelu at wrando ar lais pobl ifanc trwy gydol Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, sy'n digwydd rhwng 13-20 Hydref 2018. Bydd y Comisiynydd yn cefnogi gweithgareddau sy’n ymgysylltu â phobl ifanc ledled y pedair sir, er mwyn gwrando ar eu barn ar droseddau casineb a’u profiad ohono, ac i herio canfyddiadau a chamdybiaethau mewn perthynas â rhai cymunedau a grwpiau o bobl.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:

 "Rwy'n falch o fod yn cefnogi ystod o weithgarwch ledled ardal yr Heddlu ar faterion mor bwysig yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Er mwyn tanlinellu fy ymrwymiad i weithio gyda phobl ifanc, rwyf wedi dewis cefnogi partneriaid yn y diwydiannau creadigol, fydd yn gweithio gyda phobl ifanc drwy gydol yr wythnos, er mwyn gwrando ar eu llais, i herio canfyddiadau a chamddealltwriaeth ac er mwyn rhoi diwedd ar gasineb.

Mae'r Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yn gyfle inni ddangos i ddioddefwyr y drosedd ofnadwy hon, ein bod yn trin eu profiadau yn ddifrifol iawn, ac yn annog rhagor o bobl i ddod ymlaen a chael cymorth os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny.

Rwy'n apelio ar unrhyw un sy'n gweithio gyda'r cyhoedd, gan gynnwys ein harweinwyr ieuenctid, gwirfoddolwyr a phartneriaid cyfiawnder troseddol yn ogystal â thrigolion ein cymunedau, i uno â ni trwy gydol yr wythnos i ddangos nad ydym yn goddef troseddau casineb.”

Ceir manylion isod am y gweithgareddau y mae’r Comisiynydd yn eu cefnogi, ac sydd wedi’u hariannu trwy gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion yn ystod yr wythnos.

1. Mae gen i stori

Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a 'Teithio Ymlaen' - Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol Gorllewin Cymru ar gyfer pobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Nod y prosiect yw i bobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr Sir Benfro, sy'n aml yn dioddef o droseddau casineb, gymryd rhan mewn cyfres o weithdai sgriptio/drama. Y nod yw torri'r rhwystrau a all fodoli rhwng gwahanol gymunedau yn Nyfed-Powys a Chymru gyfan, a all arwain at gasineb. Bydd y bobl ifanc hefyd yn dysgu ac yn datblygu sgiliau newydd, gan gynnwys sgripto, ffilmio a golygu.

2. Gweithdy Drama Ymwybyddiaeth o Gasineb

Bydd clwb drama o Gaerfyrddin i blant oed cynradd yn cynnal Gweithdy Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb gyda thua 30 o bobl ifanc o wahanol ysgolion o ardal Caerfyrddin ddydd Mercher 17 Hydref. Bydd y grŵp yn archwilio gwahanol themâu yn ymwneud â Throseddau Casineb, gan ddehongli a rhoi gwahanol sefyllfaoedd ar waith. Byddant yn dangos eu gwaith i'r grŵp cyfan ar ddiwedd y sesiwn, a bydd cyfle iddynt gwestiynu ei gilydd, gyda chefnogaeth gan Swyddog Cefnogi Troseddau Casineb lleol.

3. Myfyrwyr sydd ag Anableddau Dysgu - Prifysgol Aberystwyth

Bydd y Comisiynydd yn cefnogi MIRUS Care trwy Gydlynydd Plismona Dinasyddion Heddlu Dyfed-Powys. Byddwn yn gweithio â grŵp o fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth sydd ag anableddau dysgu er mwyn codi ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Bydd y myfyrwyr yn rhoi o’u hamser er mwyn codi ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb ochr yn ochr â'u gweithwyr cymorth a'r Tîm Plismona Lleol yn ystod yr wythnos, gan ddosbarthu nwyddau i hyrwyddo neges yr heddlu o ran troseddau casineb.

 

4. Youtoo

Prosiect cymunedol yw Youtoo, dan arweiniad myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr. Wedi’i leoli ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gampws Caerfyrddin, mae'r prosiect wedi bod yn rhedeg ers 2 flynedd, ac mae'n parhau i gynnig cefnogaeth a rhaglenni cyffrous i fyfyrwyr, yn ogystal ag amgylchedd diogel ar gyfer cymdeithasu. Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, bydd Youtoo yn arwain ar weithgareddau i frwydro yn erbyn Troseddau Casineb, ac i dynnu sylw tuag atynt. Bydd hyn yn cynnwys sesiynau sy'n seiliedig ar broblemau gan gysylltu’n benodol â’r gymuned lesbiaid, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, a chodi ymwybyddiaeth o themâu casineb a geir ar safleoedd y Brifysgol a'r gymuned leol.

5. Casáu Iaith

Cynhelir Gweithdy Pobl Ifanc ym Mhowys i godi ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yn erbyn dewis iaith neu hunaniaeth unigolyn. Y nod yw herio canfyddiadau a chamdybiaethau mewn perthynas â rhai grwpiau o bobl oherwydd eu dewis iaith a’u defnydd o iaith benodol, mewn amgylchedd agored, heb fygythiad.