14 Hyd 2019
Unwch a Safwch Gyda'ch Gilydd - Dywedwch 'Na' wrth Droseddau Casineb
Bydd Heddlu Dyfed-Powys a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n cefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.
Bydd swyddogion heddlu'n codi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r hyn yw Digwyddiad Casineb neu Drosedd Casineb ac yn annog aelodau o'r cyhoedd i 'Uno a Sefyll Gyda'i Gilydd' a 'Dweud 'Na' Wrth Droseddau Casineb'.
Bydd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n sicrhau bod Gwarediadau Tu Allan i'r Llys ar gyfer troseddau casineb yn destun craffu ac asesu annibynnol a bod dioddefwyr troseddau casineb yn derbyn cymorth ac ymateb o safon uchel.
Mae gweithgareddau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn cynnwys y canlynol: -
- Bydd swyddogion, staff a phartneriaid yn cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau a digwyddiadau yn eu cymunedau er mwyn annog gwell ymwybyddiaeth, adeiladu ffydd a hyder, a sicrhau gwell ymgysylltiad yn y dyfodol â'n gwasanaeth ledled Dyfed-Powys.
- Bydd y Panel Gwarediadau Tu Allan i'r Llys yn cwrdd ar 14 Hydref er mwyn asesu a sicrhau ansawdd y defnydd o warediadau tu allan i'r llys (megis rhybuddion, datrysiadau cymunedol a gwarediadau ieuenctid) gan Heddlu Dyfed-Powys, a chraffu arno yn annibynnol. Am y tro cyntaf, byddant yn adolygu 16 o achosion troseddau casineb o'r 12 mis diwethaf a ddewiswyd ar hap. Mae eu hanner yn cynnwys drwgdybiedigion ifainc, a'r hanner arall yn cynnwys drwgdybiedigion sy'n oedolion.
- Bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu gan y Panel Sicrhau Ansawdd ar ôl iddynt adolygu detholiad o 10 digwyddiad trosedd casineb ar hap o'r 10 mis diwethaf. Roedd yr adolygiad yn cynnwys ansawdd yr ymateb, yn ogystal â sicrhau bod gweithredoedd cychwynnol yn cael eu rhoi ar waith er mwyn cefnogi ac amddiffyn unrhyw ddioddefwyr bregus.
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys:
"Mae'n dda gennyf gefnogi amryw o weithgareddau ar draws yr ardal heddlu ar faterion mor bwysig yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb. Mae'n hollbwysig fod ymateb yr heddlu i ddigwyddiadau troseddau casineb yn cael ei adolygu ac yn destun craffu annibynnol. Mae'r Panel Gwarediadau Tu Allan i'r Llys a'r Panel Sicrhau Ansawdd yn chwarae rôl bwysig o ran sicrhau bod y penderfyniad cywir wedi'i wneud ar gyfer y dioddefydd a bod aelodau o'r cyhoedd a dioddefwyr troseddau casineb yn derbyn lefel gwasanaeth da a digon o gefnogaeth. Mae'r adborth gan y ddau banel yn amhrisiadwy, ac rwy'n diolch iddynt am eu cyfraniad annibynnol."
Dywedodd y Prif Arolygydd Stuart Bell, Arweinydd Strategol Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer Troseddau Casineb:
"Mae troseddau casineb yn ddigwyddiadau sy'n achosi poen; maen nhw'n medru achosi ofn, dryswch a gofid mawr. Yn Heddlu Dyfed-Powys, rydyn ni'n gweithio'n galed i fynd i'r afael â Throseddau Casineb, deall ei effaith a rhoi cymorth i ddioddefwyr. Gyda chefnogaeth dioddefwyr, weithiau, Gwarediadau Tu Allan i'r Llys yw'r ffordd fwyaf priodol o ddatrys Trosedd Casineb. Mae'n dda gennyf fod y Panel Craffu ar Warediadau Tu Allan i'r Llys yn adolygu achosion o'r fath yn annibynnol er mwyn sicrhau bod y penderfyniad cywir wedi'i wneud ar gyfer y dioddefydd, a bod unrhyw ddysgu ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys yn cael ei gipio a'i weithredu. Hoffwn sicrhau ein cymunedau bod yr heddlu'n medru ymchwilio, dwyn troseddwyr i gyfiawnder ac atal hyn rhag digwydd i rywun arall drwy adrodd am droseddau a digwyddiadau wrth iddynt ddigwydd. Os ydych chi'n ddioddefydd trosedd casineb, neu'n dyst i drosedd o'r fath, rhowch wybod i ni. Rydyn ni eisiau clywed wrthych er mwyn i ni atal hyn gyda'n gilydd."
Anogir dioddefwyr i beidio â dioddef yn dawel. Yn hytrach, gofynnir iddynt adrodd am droseddau casineb drwy siarad â thimoedd Plismona Bro, neu drwy alw 101 pan nad yw'n argyfwng, neu 999 mewn argyfwng. Hefyd, medrwch adrodd yn electronig drwy system adrodd Gweld yn Glir - www.report-it.org.uk.
Am ragor o wybodaeth, galwch heibio i
https://www.dyfed-powys.police.uk/cy/cyngor-a-chefnogaeth/troseddau-casineb/
http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-swyddfa/cynlluniau-gwirfoddoli/panel-sicrhau-ansawdd/
Nodiadau i Olygyddion
'Tramgwydd troseddol yw trosedd casineb sydd, yn ôl barn y dioddefwr neu unrhyw unigolyn arall, wedi’i ysgogi gan ragfarn neu gasineb yn seiliedig ar nodwedd bersonol.'
Anabledd; Hil; Crefydd neu Gred; Cyfeiriadedd rhywiol; Hunaniaeth o ran Rhywedd