04 Chw 2020

04/02/2020

Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i fuddsoddi mewn ymagwedd newydd tuag at gyllido cymunedol

Mae eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, yn buddsoddi mewn cronfa newydd yn dilyn y gwaith adfywio diweddar o ran strwythur Plismona Bro ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys.

Bydd pob un o’r Timau Plismona Bro ar draws ardal yr heddlu’n derbyn £10,000 i’w wario o fewn y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu, a’r cymunedau eu hunain fydd y cyrff penderfynu allweddol yn y broses Gyllidebu Cyfranogol hon.

Bu Swyddogion Plismona Bro o Bowys, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ar sesiwn hyfforddi yn y Drenewydd yr wythnos hon er mwyn cychwyn ar y broses hon. Drwy hyn bydd swyddogion heddlu lleol yn cydweithio’n agos gyda’r gymuned leol er mwyn galluogi’r cyhoedd i wneud penderfyniadau pwysig ynghylch sut y bydd arian yn cael ei wario.

Meddai Dafydd Llywelyn: “Rydw i wedi ymrwymo i gyllido’r ymagwedd newydd a blaengar hon tuag at gyllido cymunedol gan fy mod yn credu ei bod yn hanfodol fod gan breswylwyr lleol lais yn y modd y mae arian yn cael ei wario yn eu hardal leol.

“Nhw sydd yn y sefyllfa orau i weithio gyda’r heddlu, ac yn wir asiantaethau partner eraill, i adnabod lle y mae angen yr arian a beth fyddai fwyaf o fudd i’r cymunedau lleol.

Dylai cymunedau fod yn dylanwadu ar y penderfyniadau.”

Bydd y cyllid ar gael o 1 Ebrill 2020 unwaith i’r prosesau cyllido cael eu sefydlu.

Bydd yr ymagwedd newydd hon yn cael ei mabwysiadu’n gyntaf gan swyddogion y Drenewydd a’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu. Yna bydd yn cael ei lledaenu ar draws y 13 ardal Plismona Bro sy’n weddill.

Mae swyddogion y Drenewydd eisoes wedi adnabod partneriaid y byddant yn gweithio ochr yn ochr â nhw sydd wedi arwain at gyllid pellach yn dod ar gael. Os byddai unrhyw un yn dymuno bod yn rhan o’r broses hon yn y Drenewydd, cysylltwch â’r Rhingyll Matthew Price yng Ngorsaf Heddlu’r Drenewydd, neu anfonwch ebost ato ar matthew.price418@dyfed-powys.pnn.police.uk

Meddai’r Uwcharolygdd Ifan Charles, Comander Rhanbarthol Powys a’r arweinydd ar gyllidebu cyfranogol o fewn yr heddlu:

“Mae cyllidebu cyfranogol yn ffordd o roi mwy o lais i gymunedau o ran y modd y mae eu cymunedau’n datblygu.

“Datrys problemau er mwyn darganfod atebion tymor hir a fydd yn datrys y materion sy’n achosi’r niwed mwyaf i gymunedau sydd wrth wraidd ein model plismona newydd.

“Drwy ymgysylltu a datrys problemau cymunedol ar sail gwybodaeth, dylai’r strwythur cymunedol newydd ostwng y niwed hirdymor i’n cymunedau, a thrwy hynny’r galw ar ein swyddogion ymateb, ond fydd hyn ond yn gweithio os bydd ein cymunedau a’n partneriaid yn cymryd rhan i'r un graddau.”

“Mae cyllidebu cyfranogol wedi gweithio’n dda mewn mannau eraill ac rwyf yn gyffrous iawn i gael arwain cyflwyniad yr ymagwedd flaengar hon yma.”

Troednodyn – Diwedd

 

Nodyn i Olygyddion

Gall y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod ar gael ar gyfer cyfweliadau.

Gweler datganiad blaenorol i’r wasg gan Heddlu Dyfed-Powys ynghylch gwaith adfywio i strwythur Timau Plismona Bro / timau datrys problemau yma: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy/newyddion/datganiadau-ir-wasg/timoedd-plismona-newydd-yn-canolbwyntio-ar-ymchwilio-ir-rheswm-pam-y-mae-pethaun-digwydd-nid-yn-unig-sut-maen-nhwn-digwydd/

Gwelwch isod restr o 14 ardal y Timau Plismona Bro:

  1. Aberdaugleddau
  2. Doc Penfro
  3. Dinbych-y-pysgod
  4. Hwlffordd
  5. Tref Llanelli
  6. Llanelli Wledig
  7. Caerfyrddin
  8. Rhydaman
  9. Gogledd Ceredigion
  10. Canolbarth Ceredigion
  11. De Ceredigion
  12. Gogledd Powys
  13. Canolbarth Powys
  14. De Powys

I gael gwybodaeth bellach ynghylch rôl y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, ewch at: http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-comisiynydd/rôl-y-comisiynydd-yr-heddlu-a-throseddu/

Manylion Cyswllt – Hannah Hyde, Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu 01267 226440 / hannah.hyde.opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk

Facebook / Twitter @DPOPCC

Llun - Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu