24 Hyd 2019

Y Comisiynydd yn Ymateb i archwiliad AHGTAEM o Ymateb yr Heddlu i Droseddau Seiber 

 

Mewn ymateb i'r adroddiad gan AHGTAEM, Seiber: Cadwch y golau ymlaen - Archwiliad o ymateb yr heddlu i droseddau seiber-ddibynnol, dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

 

"Gall gwell cysylltiad elwa cymunedau gwledig yn fawr, ond mae yna beryglon. Mae achosion o droseddwyr yn cymryd mantais o natur ymddiriedus pobl ar gynnydd, ac mae hyn wedi'i wneud yn haws drwy'r rhyngrwyd.

 

"Dyna pam y dewisais droseddau seiber-ddibynnol fel blaenoriaeth ar gyfer fy Nghynllun Heddlu a Throseddu, ac rwyf wedi buddsoddi'n barhaus mewn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a chynyddu gallu'r heddlu yn y maes hwn yn ystod fy nghyfnod yn y swydd.

 

"Mae'n drosedd sy'n effeithio ar bobl o bob cymuned, ac yn fy nghynhadledd flynyddol ym mis Mawrth, canolbwyntiais ar dwyll a seiberdroseddu gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth ynghylch maint y bygythiad a gyflwynir, gan roi manylion am y math o bobl a'r nifer sy'n medru cael eu heffeithio, ac yn bwysicach na dim, deall y mesurau ataliol y gellir eu rhoi ar waith er mwyn diogelu pobl.

 

"O 2017-2020, rwy'n rhoi arian tuag at gyflwyno'r prosiect KiVA, sydd wedi'i anelu at godi ymwybyddiaeth ynghylch bwlio a seiber-fwlio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn Sir Benfro, ac eleni, rwyf wedi cynyddu'r arian ar gyfer yr Uned Cyfathrebu Digidol a Seiberdroseddu o £53,000 - arian a gynhyrchwyd gan y cynllun ailhyfforddi gyrwyr ac elw troseddau - er mwyn hwyluso'r broses o ddadansoddi ffonau symudol i gynorthwyo'r heddlu i ddwyn troseddwyr i gyfiawnder yn gynt.

 

"Rwyf hefyd wedi ariannu dau ymchwilydd arbenigol i ymdrin â throseddau seiber-ddibynnol a throseddau sy'n cael eu hwyluso gan ddulliau seiber, a rôl sy'n gweithio'n benodol i amddiffyn ein cymunedau a'n busnesau ac ymgysylltu â nhw.

 

"Rwyf wedi ymrwymo i barhau i gefnogi'r maes hwn, ac mae hyn yn amlwg o'm penderfyniad diweddar i barhau i ariannu'r swyddi arbenigol hyn."