15 Tach 2019

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yn gofyn i’r rheini sydd wedi profi buddion y broses cyfiawnder adferol ddod ymlaen a chymryd rhan mewn sgwrs ar-lein. Mae hefyd yn awyddus i glywed gan ddioddefwyr troseddau, sydd wedi cael cynnig cyfiawnder adferol ond sydd wedi dewis peidio â chymryd rhan, er mwyn dysgu pa welliannau y gellid eu gwneud.

Bydd tîm o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal sgwrs ar-lein ddydd Mercher yma, 20 Tachwedd rhwng 1:15 pm - 2pm. I gymryd rhan, e-bostiwch opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk. Byddwch yn cael dolen i'r sgwrs - mae'n hawdd iawn cymryd rhan.

Mae Wythnos Cyfiawnder Adferol 2019 yn cychwyn ddydd Sul 18 Tachwedd ac yn rhedeg am wyth diwrnod. Mae'r wythnos yn tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i ddioddefwyr gael eu clywed yn y broses cyfiawnder troseddol. Mae Cyfiawnder Adferol yn broses sy'n dwyn ynghyd y rhai y mae trosedd yn effeithio arnynt a'r rhai sy'n gyfrifol am y niwed. Mae’n grymuso pawb yr effeithir arnynt i gael rhan wrth atgyweirio'r niwed a dod o hyd i ffordd gadarnhaol ymlaen.

Yn siarad cyn yr Wythnos Cyfiawnder Adferol, dywedodd Dafydd Llywelyn:

“Rwy’n awyddus i sicrhau bod gan ddioddefwyr lais yn y broses cyfiawnder troseddol a gall cyfiawnder adferol fod yn rhan hanfodol o daith y dioddefwr. Rwyf am glywed am eu profiadau uniongyrchol, ac a yw cyfiawnder adferol yn cael ei gynnig ar yr adeg fwyaf priodol ar eu cyfer.

“Dylai profiad y rhai sydd wedi cael eu hunain yn ddioddefwr trosedd fod wrth wraidd y modd y mae gwasanaethau i’w cefnogi yn cael eu hadeiladu - mae sgwrs ar-lein yr wythnos hon yn gam pwysig yn y modd y mae’r defnydd o gyfiawnder adferol yn parhau i esblygu.”