04 Tach 2019

Ymrwymiad Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, i fuddsoddi mewn pobl leol a gwella eu sgiliau, a pharhau i ddatblygu gweithlu’r dyfodol

Dafydd Llywelyn oedd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu cyntaf yng Nghymru i gyflogi prentisiaid, ac erbyn hyn, mae dau o’r prentisiaid cyntaf wedi cwblhau eu cyrsiau’n llwyddiannus ac wedi ennill eu cymwysterau. Dangoswyd bod prentisiaid yn ychwanegu gwerth, yn darparu gweithlu medrus ar gyfer y dyfodol, yn cynyddu ffyddlondeb staff a chadw staff, yn newid rhagolygon gyrfa ac yn agor llwybrau newydd diddorol ar gyfer y cyflogwr a’r gweithiwr.

Y swydd prentis gyntaf a gynigwyd yn ei swyddfa oedd Prentis Cymorth Busnes nôl yn 2018. Derbyniwyd 19 cais ar gyfer y swydd. Anwen Howells oedd yr ymgeisydd llwyddiannus, ac mae hi dal yn y swydd llawn amser.

Cafodd Anwen ei geni a’i magu yn Aberporth, Ceredigion, ond erbyn hyn, mae’n byw yn Sir Gaerfyrddin. Cwblhaodd ei harholiadau Lefel A yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, cyn dechrau swydd llawn amser fel cynorthwyydd gweinyddol gyda chwmni datblygu adeiladau yn Llanelli, a gydag asiantaeth gosod tai yn Llanbedr Pont Steffan wedi hynny.

Dywedodd Anwen: “Pan oeddwn i’n ddigon ffodus i gael cynnig y swydd yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, roeddwn i’n gobeithio cael cymaint o brofiad â phosibl er mwyn datblygu i rolau eraill nes ymlaen mewn bywyd. Rwyf wedi ennill profiad gwaith gwerthfawr gyda sefydliad mawr, gan weithio tuag at ddau gymhwyster NVQ mewn Gweinyddu Busnes o Goleg Sir Gâr yr un pryd. Roeddwn yn cwrdd â’m tiwtor ddwywaith y mis er mwyn trafod cynnydd mewn perthynas â’m gwaith yn y swyddfa, yn ogystal â’m modiwlau academaidd. Roeddwn yn teimlo bod hyn yn fuddiol am ei fod yn helpu i osod gwaith academaidd a damcaniaethol yn ei gyd-destun.”

 

Mae Hannah Williams, sy’n gweithio o fewn y tîm Cydweithio ac Effeithlonrwydd ar hyn o bryd, hefyd wedi cwblhau’r brentisiaeth Gweinyddu Busnes yn llwyddiannus. Roedd Hannah wedi bod i’r brifysgol ac roedd ganddi radd, felly cwblhaodd y cwrs lefel 3.

Meddai: “Roeddwn i wedi bod â diddordeb yn yr heddlu erioed, fodd bynnag, doeddwn i ddim yn siŵr pa adran fyddai’n fy niddori. Rhoddodd y brentisiaeth gyfle i mi gael profiad o fewn pencadlys yr heddlu, a fyddai’n fy ngalluogi i ymgyfarwyddo ag adrannau gwahanol hefyd.

“Fe wnes gwrdd a gweithio ag amryw o wahanol bobl o fewn Heddlu Dyfed-Powys. Roedd pawb yn gefnogol iawn yn ystod y cwrs, ac maen nhw wedi parhau i gefnogi fy natblygiad ers i mi gwblhau’r cwrs.

“Rwy’n falch iawn fy mod i wedi llwyddo i gwblhau’r cwrs mewn 7 mis, pan rydych chi’n cael 18 mis i’w gwblhau, a fy mod i wedi derbyn gwobr ‘Prentis y Flwyddyn – Gweinyddu Busnes’ gan y coleg. Teimlais ei fod yn werthfawr iawn, a rhoddodd yr hyder i mi wneud cais am swyddi amrywiol. Arweiniodd hyn at gais llwyddiannus ar gyfer swydd Dadansoddydd Galw o fewn yr heddlu, ac rwy’n edrych ymlaen at gychwyn y swydd barhaol hon cyn hir.”

Ychwanegodd Dafydd Llywelyn: “Dyma enghreifftiau gwych o lwyddiannau mewn perthynas â derbyn prentisiaid. Rwy’n angerddol dros wella sgiliau pobl leol, a sicrhau bod ganddyn nhw’r sgiliau cywir i gael gyrfaoedd llwyddiannus a boddhaol heb orfod symud i ffwrdd i ddinas. Fi oedd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu cyntaf yng Nghymru i gyflogi prentisiaid, felly rwy’n falch iawn bod y prentisiaid gwreiddiol wedi cwblhau eu cyrsiau’n llwyddiannus erbyn hyn, a bod ganddynt gymwysterau gwerthfawr ar gyfer eu rhagolygon gyrfa yn y dyfodol. Bu Anwen a Hannah yn asedau i’m swyddfa a’r heddlu. Mae’n galonogol gwybod hefyd eu bod mewn gwaith cyflogedig wrth astudio, a’u bod nhw dal mewn swyddi llawn amser – Anwen yn fy swyddfa i, a Hannah draw gyda Heddlu Dyfed-Powys.

“Rwy’n credu bod yr enghreifftiau hyn yn dangos bod prentisiaethau’n cynnig cyfle i ennill amrediad o brofiad gwaith mewn swydd gyflogedig a datblygiad gyrfa ardderchog, ac mae’n caniatáu i’m swyddfa i a’r heddlu i ehangu eu cronfa dalent. Mae’n fuddsoddiad arbennig o’m safbwynt i, ac yn gyfle lle mae pawb ar ei ennill.”

Cadwch lygad ar wefan y Comisiynydd am gyfleoedd yn y dyfodol – www.dyfedpowys-pcc.org.uk

diwedd