12 Meh 2018

12 Meh 2018

Mae ymwelydd annibynnol â dalfeydd wedi siarad am y ffordd y newidiodd terfysgoedd treisgar Brixton yn 1981 ei golwg ar fywyd.

Mae Mandy Walker o Sir Drefaldwyn yn gwirfoddoli i Heddlu Dyfed-Powys fel ymwelydd annibynnol â dalfeydd – rôl hollbwysig a ddatblygodd ar ôl 1981.

Gan siarad mewn digwyddiad a drefnwyd i ddathlu gwaith gwirfoddolwyr o fewn yr heddlu, esboniodd Mrs Walker beth oedd wedi ei hysgogi i roi o’i hamser i sicrhau bod dalfeydd o safon dderbyniol a bod hawliau carcharorion yn cael eu cynnal.

“Roedd hi’n 1981 ac roeddwn i’n Gymraes ddiofal 24 oed,” meddai. “Roeddwn i wedi symud i Lundain ac yn cael amser wrth fy modd.  

“Ni chymerais lawer o sylw o’r hyn oedd yn digwydd yng ngweddill y byd. Problem rhywun arall oedd gwleidyddiaeth a materion cymdeithasol, nid fy un i.

“Newidiodd hynny pan ddigwyddodd rhywbeth bedair milltir yn unig o’m cartref.”

Fel chwaraewr hoci brwd, esboniodd Mrs Walker y byddai’n  aml yn gyrru trwy Brixton o’i fflat er mwyn cyrraedd ei chlwb, a phan ddigwyddodd yr helynt yn Brixton, newidiodd ei golwg ar fywyd.

“Roedd Brixton y math o le roeddech chi’n gobeithio na fyddai’ch car yn torri i lawr, neu na fyddai’n rhaid i chi aros am amser hir wrth y goleuadau traffig rhag ofn y byddai’ch teiars yn cael eu dwyn,” meddai.

“Sefydlwyd Ymgyrch Swamp er mwyn ceisio lleihau troseddau ar strydoedd Brixton, ac o fewn pum diwrnod, cafod 943 unigolyn ei stopio a’i chwilio, ac arestiwyd 82.

“Achosodd hyn densiynau rhwng swyddogion gwyn a thrigolion lleol du yn bennaf.”

Ni allai Mrs Walker fod wedi dychmygu sut y byddai’r sefyllfa’n gwaethygu dros y dyddiau nesaf. Cychwynnodd terfysgoedd Brixton gan adael aelodau o’r cyhoedd a swyddogion heddlu wedi’u hanafu, a channoedd yn y ddalfa.  

“Roedd taflegrau’n cael eu taflu at swyddogion heddlu, ac roedd bomiau petrol yn cael eu taflu gan osod pob dim ar dân,” meddai. Roedd mwg yn dod mewn i’m fflat, ac roedd sŵn seiren i’w glywed ddydd a nos.

“Dros y penwythnos, anafwyd 50 aelod o’r cyhoedd a 400 swyddog heddlu. Roedd y difrod i eiddo gwerth tua £7.5 miliwn. Efallai mai’r broblem fwyaf oedd arestio 282 unigolyn. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn bobl ddiniwed a oedd yn digwydd cerdded heibio.”

“Roedd dalfeydd yn Brixton a’r cyffiniau’n orlawn, ac roedd swyddogion heddlu wedi’u llethu. Ysgrifennodd Alex Wheatman, awdur a arestiwyd yn ystod y terfysgoedd, bod pledion carcharorion am gymorth yn cael eu hanwybyddu. Mae’n siŵr ei bod hi’n gyfnod brawychus ar gyfer yr heddlu, ond roedd yn gyfnod brawychus ar gyfer y carcharorion hefyd.”

Yn dilyn y terfysgoedd, comisiynwyd Adroddiad Scarman gan Lywodraeth y DU, a chynhaliwyd ymchwiliad i’r digwyddiad. Un o’r awgrymiadau yn yr adroddiad oedd y dylid sefydlu ymwelwyr annibynnol â dalfeydd sy’n ymweld â dalfeydd yn ddirybudd..

Ar ôl gwylio digwyddiadau’n datblygu a’r effaith ar y gymuned, penderfynodd Mrs Walker wirfoddoli fel ymwelydd annibynnol â dalfeydd. Mae hi nawr yn teithio o gwmpas ardal Heddlu Dyfed-Powys gan alw heibio i ddalfeydd er mwyn cynnal gwiriadau dirybudd. 

“Mae’n rhaid i ni gael ein gadael i mewn yn syth heblaw bod sefyllfa beryglus yn digwydd,” meddai. “Rydyn ni’n gofyn i garcharorion pa un ai a ydynt wedi cael gwybod am eu hawliau o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, a pha un ai a ydynt yn cael eu trin yn iawn.

“Rydyn ni hefyd yn gwirio pa un ai a yw pob maes mewn cyflwr da, nad yw’r bwyd yn hen, bod offer yn addas, a bod digon o ddeunydd darllen neu ddeunydd crefyddol ar gael.

“Os oes unrhyw garcharor yn sôn am broblemau, rydyn ni’n trafod y problemau hyn gyda rhingyll y ddalfa yn syth.”

Gan siarad am derfysgoedd Brixton, meddai: “Mae’r terfysgoedd wedi newid bywydau carcharorion, ac mae’r digwyddiad wedi fy newid i. Rydw i wedi cwblhau cylch llawn, ac rwy’n cyfrannu i gymdeithas trwy fy ngwaith gwirfoddol. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i wneud hynny.”