Etholwyd Dafydd Llywelyn am ail dymor i swydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn ystod etholiadau Mai 2021.  

 

Mae Dafydd yn gyn-Brif Dadansoddydd Cudd-wybodaeth, a bu’n gweithio yn adran gudd-wybodaeth yr heddlu am flynyddoedd lawer cyn symud i Brifysgol Aberystwyth yn 2014 er mwyn darlithio mewn Troseddeg. Mae ei yrfa wedi rhoi cryn fewnwelediad iddo i faterion plismona craidd, yn ogystal â dealltwriaeth o’r hyn y mae’r cyhoedd eisiau o’r gwasanaeth.

 

Yn ogystal â’i rôl fel Comisiynydd, mae Dafydd yn Gadeirydd Plismona yng Nghymru, ac mae’n chwarae rhan weithredol mewn Grwpiau amrywiol eraill, gan gynnwys:

  • Gwasanaethau Digidol yr Heddlu
  • Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan
  • Un Bwrdd Adolygu Diogelu Unedig gyda
  • Llywodraeth Cymru, Swyddog Cyfrifol Sengl Cymru.
  • Bwrdd Plismona Cymru
  • Bwrdd Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu
  • Bwrdd Rhaglen Cymunedau Diogelach
  • Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol - ar y Bwrdd Gweithredol
  • Cyd-Gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol VAWDASV ochr yn ochr â'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt AS
  • Cadeirydd Rhwydwaith Arloesi a Gwella Dadansoddi Data Cymru (WDAIIN)
  • Cadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol Dyfed Powys

 

Fy ngweledigaeth gyffredinol ar gyfer 2021-25 yw cadw cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiogel, gan gynnal ymddiriedaeth a hyder ar system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd. Darlien mwy yma. 

 

Mae Dafydd yn siaradwr Cymraeg rhugl, yn ddyn teulu gyda 5 o blant, ac mae’n mwynhau pob math o chwaraeon, ond mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dilyn tîm pêl droed Cymru adref a thramor.

Y cyflog ar gyfer Comisiynydd a Throseddu Dyfed-Powys yw £68,200 y flwyddyn. Gosodir y cyflog hwn yn genedlaethol gan yr Ysgrifennydd Cartref ar argymhellion y Corff Adolygu Uwch Gyflogau.