Sefydlwyd y Panel Sicrhau Ansawdd er mwyn craffu ar ansawdd cyswllt yr Heddlu â’r cyhoedd, mewn modd tryloyw ac annibynnol, ar ran y cymunedau o fewn ardal Dyfed-Powys.

Bydd y Panel yn craffu ar brosesau feysydd o gysylltiad yr Heddlu â’r cyhoedd, er enghraifft, achosion cwyn, cofnodion Stopio a Chwilio a'r ffordd mae’r heddlu’n trin galwadau a dderbynnir gan Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu h.y. galwadau 101 a 999. Mae materion a godir yn cael eu hystyried gan yr arweinyddion adran berthnasol a rhoddir diweddariadau imi.

 Cliciwch yma am lawlyfr y Panel 

 Cliciwch yma am Polisi Gwirfoddoli

Rydyn ni wrthi’n recriwtio ar gyfer y Panel Sicrhau Ansawdd!

Cliciwch yma i weld manyleb rôl.

I lenwi ffurflen gais cliciwch yma

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddfa ar 01267 226097, neu drwy anfon e-bost at opcc@dyfed-powys.police.uk

Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod ein gweithlu’n cynrychioli’n cymunedau, ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn derbyn ceisiadau gan ein cymunedau amrywiol. Rhowch wybod i ni os hoffech unrhyw gymorth i gwblhau ffurflen gais, neu os oes angen ffurflen gais arnoch mewn fformat gwahanol.

Cliciwch yma am ffurflen gais.

 

 

Adroddiadau