Hannah Hyde
Rwy’n rhannu fy swydd gyda’m cydweithwraig Kerrie Phillips.
Rydyn ni’n rheoli Hwb Ymgysylltu’r Comisiynydd.
Mae ein tîm yn cydlynu ymgysylltu cymunedol y Comisiynydd, ei gynlluniau gwirfoddoli, a cheisiadau gan y wasg.
Rydyn ni hefyd yn rheoli’r Swyddfa Gwasanaeth Cyhoeddus sy’n brysbennu canmoliaeth a chwynion gan aelodau o’r cyhoedd, ac yn eu cyfeirio at yr unigolion perthnasol er mwyn iddynt ymdrin â nhw.
Beth yw’r peth mwyaf pleserus am eich rôl?
Fel Rheolwr y Tîm Ymgysylltu, rwy’n goruchwylio nifer o feysydd diddorol a gwahanol o ran gwaith ymgysylltu.
Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd?
Ers mis Hydref 2016, ond rydw i wedi bod yn gweithio yn Swyddfa’r Comisiynydd ers mis Ebrill 2013. Ar gyfer y rhan fwyaf o’m hamser yn Swyddfa’r Comisiynydd, roeddwn i’n gyfrifol am gydlynu cynlluniau gwirfoddoli’r Comisiynydd.
Beth oeddech chi’n ei wneud cyn ymuno â Thîm y Comisiynydd?
Gweithiais i Heddlu Dyfed-Powys am 5 mlynedd yn y maes ymgysylltu cyhoeddus ar ôl cwblhau fy ngradd Meistr yn y Brifysgol.