Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Mae’n dda gen i gyhoeddi bod fy swyddfa wedi ymgymryd â’i hadolygiad craffu dwys cyntaf yn llwyddiannus. Y nod oedd ceisio cynnig sicrwydd o ran pa mor gyfreithlon yw defnydd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys o’i bwerau i ddefnyddio grym ar aelodau o’r cyhoedd. 
 
Rwy’n blês gan ymateb yr heddlu i’r ffaith bod fy swyddfa’n ymgymryd â’r gwaith hwn ac rwy’n diolch i bawb a gyfrannodd yn onest i’r adolygiad. Hefyd, hoffwn ddiolch i’r cyhoedd a fuodd yn barod i rannu eu barn â ni, a hynny trwy fy arolwg ar-lein, ac wyneb-yn-wyneb yn y digwyddiadau amrywiol y mae fy nhîm a minnau wedi bod ynddynt yn ystod yr haf.   
 
Gwelais fod adborth gan y cyhoedd am ddefnydd yr heddlu o rym yn gadarnhaol ar y cyfan. Cafodd hyn ei gefnogi gan fy mhanel annibynnol o wirfoddolwyr, a welodd fod swyddogion yn ymdrin â’r cyhoedd yn gymesur a rhesymol yn y digwyddiadau gafod eu hadolygu ganddynt.   
 
Doedd hi ddim yn syndod clywed mai alcohol, cyffuriau ac iechyd meddwl sydd wedi’u cofnodi fel y ffactorau effaith amlycaf sy’n effeithio ar dactegau’r heddlu. 
 
Sgiliau heb arfau, megis gwasgbwyntiau a llorio pobl, gosod gefynnau ac ataliadau llawr oedd y rhan fwyaf o’r tactegau a arweiniodd at gwynion am rym gormodol; er, ni chafodd y rhan fwyaf o’r rhain eu cyfiawnhau. Er nad oedd unrhyw beth o fewn yr adolygiad a oedd yn peri pryder sylweddol, ro’n i’n siomedig i ganfod fod y defnydd o rym ddim yn cael ei recordio’n gyson gan swyddogion. Nid yw’r diffygion o ran casglu a dadansoddi data’n gywir wedi fy ngalluogi i roi sicrwydd llawn bod grym yn cael ei ddefnyddio’n gyson a chymesur gan swyddogion. Oherwydd hyn, dwi wedi gwneud cyfres o argymhellion i’r Prif Gwnstabl, ac rwy’n hyderus y bydd ef a’i dîm yn eu datblygu. Byddaf yn adolygu’r cynnydd hwn yn ystod y misoedd i ddod, a byddaf yn eich diweddaru trwy gyfarfodydd cyhoeddus ac ar fy ngwefan. 
 
Rwyf wedi ymrwymo i barhau â’r gwaith yma a byddaf yn edrych am eich cymorth o ran rhoi gwybod i’m staff sut rydych chi, fel preswylwyr DyfedPowys, yn teimlo bod eich gwasanaeth heddlu’n eich cefnogi i aros yn ddiogel ac yn rhydd o drosedd. Rwy’n eich annog i gymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghori yn y dyfodol. Ceir manylion am y rhain ar fy ngwefan neu drwy gysylltu â’m swyddfa. Diolch yn fawr.