Diben y Panel yw asesu, craffu a sicrhau ansawdd gwarediadau y tu allan i’r llys (rhybuddion, datrysiadau cymunedol, gwarediadau adferol ieuenctid ac ati) a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys yn annibynnol. Gall y Panel gyflwyno argymhellion, adborth ar achosion unigol i swyddogion, adrodd am ganfyddiadau, hyrwyddo arfer gorau a nodi datblygiadau posibl o ran polisïau, neu anghenion o ran hyfforddiant i’w hystyried gan yr Heddlu neu asiantaethau cysylltiedig eraill. Ni all y Panel newid canlyniad gwreiddiol yr achos.

Mae aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau cyfiawnder troseddol megis y Llysoedd, y Gwasanaeth Heddlu, tîm troseddau ifanc a'r Gwasanaeth Prawf a Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Llawlyfr Y Panel 

Addroddiadau