Drwy’r Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr, mae eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n gweithio gyda Phartneriaid Cyfiawnder Troseddol er mwyn sicrhau bod lleisiau dioddefwyr yn dylanwadu ar graffu a wneir ar ddarpariaeth gwasanaeth i ddioddefwyr.

Yr ydym eisiau cynnwys y rhai sydd wedi’u heffeithio gan drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn gweithgareddau ymgysylltu ystyrlon a dylanwadol, lle mae ganddynt gyfle i rannu eu barn ar y gwasanaethau y mae dioddefwyr yn eu derbyn drwy’r system cyfiawnder troseddol.

Diben cyffredinol y Fforwm hwn yw i’r prosiect cydweithredol pwysig hwn gefnogi cyflenwi gwasanaeth rhagorol ar gyfer dioddefwyr.

Gweler ein Cylch Gorchwyl am ragor o wybodaeth.

Mae Cronfa Ddata o Ddioddefwyr yn eistedd ochr yn ochr â’r Fforwm Ymgysylltu â Dioddefwyr. Cysylltir â’r unigolion hynny yn ein Cronfa Ddata am gyfleoedd ymgysylltu. Mae pob unigolyn wedi cytuno i gael ei hysbysu am gyfleoedd ymgysylltu sydd wedi’u hanelu at wella gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr.

Gall cyfle ymgysylltu gynnwys cwblhau arolwg, anfon adborth atom ar brosesau, polisïau neu ddogfennau penodol, neu gymryd rhan mewn trafodaeth grŵp. Nid oes disgwyl i'r unigolion gymryd rhan ym mhob cyfle: Maen nhw'n dewis pryd i gymryd rhan.

Byddwch yn rhan o'r prosiect

Os hoffech fod yn rhan o’r prosiect pwysig hwn, cysylltwch â Thîm Ymgysylltu’r Comisiynydd drwy alw 01267 226440, anfon e-bost at OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk neu llenwch y ffurflen isod gan roi'r manylion canlynol:

  • Enw
  • Y dull cyswllt a ffefrir, a manylion cyswllt perthnasol
  • Yr iaith a ffefrir