Gwrandawiadau Camymddwyn yr Heddlu a Thribiwnlysoedd Apêl yr Heddlu

 

Gwybodaeth Gefndir

 

O dan Reoliadau Ymddygiad yr Heddlu 2012 (fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau (Diwygiad) (Ymddygiad) yr Heddlu), gwnaed newidiadau i'r ymddygiad a chyfansoddiad gwrandawiadau camymddygiad yr heddlu i swyddogion heddlu rheng Uwch-arolygydd ac o dan hynny. Diben y newidiadau yw dod â mwy o dryloywder ac annibyniaeth i wrandawiadau camymddygiad yr heddlu. Maent yn cynnwys cynnal gwrandawiadau yn gyhoeddus (a gyflwynwyd ym mis Mai 2015) ac ers mis Ionawr 2016, maent yn cael eu cadeirio gan rywun sydd â chymhwyster yn y gyfraith a benodir gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu (y Comisiynwyr). Mae newidiadau pellach mewn deddfwriaeth i fod o 1 Chwefror 2020 o dan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 lle bydd angen cadeiryddion â chymhwyster yn y gyfraith i reoli gwrandawiadau camymddygiad yr heddlu o'r cychwyn cyntaf.

 

Proses camymddygiad – swyddogion heddlu sydd ddim yn uwch swyddogion (Uwch-arolygydd ac o dan hynny)

 

Mae hyder y cyhoedd yn yr heddlu o'r pwys mwyaf. Er mwyn ei sicrhau, disgwylir i swyddogion

heddlu arddangos lefel uchel o safonau ymddygiad personol a phroffesiynol. Gall honiad o gamymddygiad yn erbyn swyddog heddlu neu swyddog gwirfoddol gael ei ystyried yn briodol ar gyfer ymchwiliad gan Adran Safonau Proffesiynol yr Heddlu neu Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). Caiff canfyddiadau ymchwiliad eu cyfeirio at a'u hasesu'n ffurfiol gan y Dirprwy Brif Gwnstabl fel yr 'awdurdod priodol'. Os yw'r Dirprwy Brif Gwnstabl yn ystyried yr honiad fel camymddygiad difrifol, cyfeirir y mater at wrandawiad camymddygiad yr heddlu i'w benderfynu a, os profir yr honiad, gosod sancsiynau.

 

Gwrandawiadau Camymddygiad yn Nyfed-Powys, Gogledd Cymru, Gwent a De Cymru

 

Cynhelir gwrandawiadau ym mhob un o ardaloedd heddluoedd Dyfed-Powys, Gogledd Cymru, Gwent a De Cymru. Cynhelir gwrandawiadau gan Banel Camymddwyn yr Heddlu (y panel) sy'n cynnwys un cadeirydd cymwys yn y gyfraith , un swyddog heddlu o reng uwch-arolygydd o leiaf ac aelod annibynnol. Cyfrifoldeb y Comisiynwyr yw cynnal rhestr o gadeiryddion cymwys yn y gyfraith ac aelodau annibynnol. Cyfrifoldeb y Comisiynwyr yw penodi'r cadeirydd cymwys yn y gyfraith ac aelod annibynnol o'r panel drwy ddefnyddio'r 'broses rhengoedd cab'. Cyfrifoldeb yr awdurdod priodol yw penodi aelod o'r panel sy'n swyddog heddlu.

 

Sancsiynau

 

Mae'r Coleg Plismona wedi creu 'Canllaw ar ganlyniadau mewn achosion camymddygiad yr heddlu'. Mae'r Coleg Plismona yn gorff proffesiynol i'r heddlu yng Nghymru a Lloegr. Mae eu cyfrifoldeb yn cynnwys rolau hyfforddi a datblygu. Bwriad y canllaw yw cynorthwyo'r panel a benodir i gynnal achosion camymddygiad.

 

Deddfwriaeth

 

Rheoliadau (Ymddygiad) yr Heddlu 2012 (diwygiwyd gan Reoliadau (Diwygiad) (Ymddygiad) yr Heddlu 2014 a 2015)

Rheoliadau (Ymddygiad) yr Heddlu 2019 (i'w deddfu o 1 Chwefror 2020)

Deddf Plismona a Throsedd 2017