Rôl Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC)

Gellir anfon cwynion ynghylch ymddygiad pobl sy’n gweithio i’r heddlu at yr IOPC, ond nid oes gan yr IOPC y pŵer i gofnodi cwynion. Os byddwch yn gwneud cwyn i’r IOPC, rhaid, yn unol â’r gyfraith, anfon y cwyn yn ôl at Heddlu Dyfed Powys er ystyriaeth.

Oherwydd y niferoedd eithriadol o uchel o gwynion a anfonir at yr IOPC, gall gymryd nifer o wythnosau cyn y bydd cwyn yn cael ei hanfon ymlaen at Heddlu Dyfed Powys. Felly, i gyflymu’r broses o ymdrin â’ch cwyn, fe’ch cynghorir i gyflwyno eich cwyn i Heddlu Dyfed Powys gan ddefnyddio un o’r dulliau a nodir ar wefan yr heddlu yma.

Mae’r IOPC hefyd yn ymchwilio i’r cwynion a’r cyhuddiadau mwyaf difrifol o gamymddwyn a wneir yn erbyn heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Cyfeirir y cwynion hyn at yr IOPC gan yr heddluoedd eu hunain. Gall yr IOPC benderfynu defnyddio ei ymchwilwyr ei hun i ymchwilio i ddigwyddiad (Ymchwiliad Annibynnol). Fel arall, gall yr heddlu ymchwilio i’r mater dan reolaeth neu oruchwyliaeth yr IOPC. Dim ond digwyddiadau sy’n achosi lefel uchel iawn o bryder i’r cyhoedd bydd yr IOPC yn ymchwilio iddynt, er enghraifft, marwolaeth unigolyn yn y ddalfa neu’n dilyn cyfnod yn y ddalfa.

Ymhle y gallaf gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cwyn?

Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch a sut i wneud cwyn ar wefan yr IOPC.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn goruchwylio system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ac nid ydynt yn ymdrin â chwynion gan y cyhoedd yn uniongyrchol. Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’r gwasanaeth heddlu perthnasol i wneud eich cwyn. Mewn rhai sefyllfaoedd, mae’n rhaid i’r heddlu gyfeirio cwynion at yr IOPC – er enghraifft, rhai sy’n ymwneud â marwolaeth, ymosodiad difrifol neu drosedd rhyw difrifol.

Am ragor o wybodaeth ynghylch rôl yr IOPC, medrwch gysylltu â nhw drwy unrhyw un o’r dulliau canlynol – Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, PO Box 473, Sale, M33 0BW.  Y rhif ffôn yw 0300 020 0096, a’r cyfeiriad e-bost yw enquiries@policeconduct.gov.uk   Cyfeiriad y wefan yw: https://policeconduct.gov.uk/cy