Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, rwy’n comisiynu gwasanaethau’n uniongyrchol o ddarparwyr arbenigol er mwyn helpu i atal trosedd, cefnogi’r rhai sy’n agored i niwed a mynd i’r afael â materion sy’n bwysig i chi. Gweler isod fanylion am y darparwyr gwasanaethau a’r partneriaid sy’n cefnogi fy strategaeth.

Goleudy

Gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr a thystion
0300 1232996

Mae Goleudy’n cynnig cymorth personol, emosiynol ac ymarferol i helpu dioddefwyr, teuluoedd a thystion i ddod dros trosedd a’u gwneud nhw’n gryfach. Mae’r gwasanaeth am ddim ac yn gyfrinachol. Does dim gwahaniaeth os adroddwyd am y drosedd i'r heddlu neu beidio, na phryd y digwyddodd. Mae Goleudy hefyd yn darparu gwasanaeth ar gyfer adnabod ac yn rheoli lefel risg ymhlith dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mwyn gwella diogelwch cymdeithasol, a lleihau’r effaith ar breswylwyr ardal Dyfed-Powys.

Kaleidoscope CAIS

Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol ar gyfer Powys
01686 207 111

Amcan Kaleidoscope Powys yw lleihau niwed a achosir gan gamddefnyddio sylweddau i ddefnyddwyr gwasanaeth, pobl sy’n agos atynt a’r gymuned ehangach. Mae Kaleidoscope hefyd yn gweithio i adnabod troseddwyr ac ymgysylltu â nhw o’r adeg y maen nhw’n cael eu harestio hyd at eu dedfryd, ac uchafu cyfran yr unigolion sy’n llwyddo i gwblhau rhaglenni triniaeth.

DDAS

Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol ar gyfer Dyfed
03303 639 997

Gan weithredu yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, amcan Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed yw lleihau niwed a achosir gan gamddefnyddio sylweddau i ddefnyddwyr gwasanaeth, pobl sy’n agos atynt a’r gymuned ehangach. Mae Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed hefyd yn gweithio i adnabod troseddwyr ac ymgysylltu â nhw o’r adeg y maen nhw’n cael eu harestio hyd at eu dedfryd, ac uchafu cyfran yr unigolion sy’n llwyddo i gwblhau rhaglenni triniaeth.

Llamau

Cymorth a chyflafareddu ar gyfer pobl ifainc sydd ar goll
029 2023 9585

Mae Llamau’n cynnig gwasanaeth ôl-drafod, cefnogi a chyfryngu ar gyfer plant a phobl ifainc yr adroddwyd eu bod 'ar goll' ac sydd mewn perygl o dioddef cam-fanteisio rhywiol neu erledigaeth, a hefyd eu teuluoedd.

New Pathways

Gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr cam-drin rhywiol
01685 379 310

Mae Llwybrau Newydd yn cynnig mynediad 24 awr i gymorth mewn argyfwng i ddioddefwyr a chefnogaeth barhaus mewn man diogel sy’n cynnig cymorth cyntaf, diogelu a gofal fforensig a chlinigol arbenigol.

Dal i Godi

Gwasanaeth IDVA Dyfed-Powys
01267221194

Mae'r gwasanaeth IDVA yn mynd i'r afael â diogelwch dioddefwyr sydd â risg uchel o niwed gan bartneriaid agos, cynbartneriaid neu aelodau o'r teulu, gan gynnwys sicrhau eich diogelwch a diogelwch eich plant.

Unwaith y byddwn wedi derbyn atgyfeiriad, byddwn yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth a thrafod eich anghenion cymorth.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am eich hawliau a'ch opsiynau o ran tai a'r broses gyfreithiol, gan esbonio effeithiolrwydd rhwymedïau troseddol a sifil.

Gallwn eich helpu i ddatblygu eich cynllun diogelwch personol eich hun a chynllun gweithredu yn seiliedig ar eich amgylchiadau penodol.
Ein nod yw bod yn un pwynt cyswllt, gan gysylltu ag asiantaethau eraill ar eich rhan a mynychu cyfarfodydd a llys gyda chi.
Gallwn hefyd eich helpu i aros yn eich cartref eich hun os dymunwch, gan sicrhau ei fod yn ddiogel – gan archwilio’r opsiwn o gael mesurau diogelwch ychwanegol a bydd yn eich helpu i ddatblygu cynllun diogelwch personol i helpu i’ch cadw’n ddiogel.
Bydd IDVA yn cysylltu â chi mewn ffordd ddiogel.
Bydd yr IDVA yn eich cynrychioli yn MARAC, sef cynhadledd asesu risg aml-asiantaeth.
Bydd yr IDVA a neilltuwyd i chi yn cwblhau asesiad risg gyda chi ac yn helpu i ddatblygu cynllun diogelwch sy'n benodol i'ch anghenion i leihau'r risg o niwed pellach i chi a/neu eich plant.
Mae IDVAs yn gweithio o bwynt argyfwng tuag at annibyniaeth a bywydau rhydd o gam-drin.

Dewis Cymru

Dewis Cymru yw’r lle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall.

Pobl

Cynllun Dargyfeirio Troseddwyr
01646 698820

Mae Cynllun Dargyfeirio Dyfed-Powys yn ceisio ymdrin ag ymddygiad troseddol yn gynt o lawer yn ystod taith troseddu unigolyn drwy fynd i'r afael â gwraidd achosion troseddu a materion iechyd a chymunedol cysylltiedig. Ei amcan yw gostwng niferoedd dioddefwyr trosedd drwy gynnig rhaglen pedwar mis o ymyraethau i droseddwyr cymwys yn hytrach na'u herlyn.

I ddarllen mwy am waith y Comisiynydd gyda Pobl, sy'n anelu at ddargyfeirio troseddwyr lefel isel i ffwrdd o'r System Cyfiawnder Troseddol a lleihau aildroseddu yn ardal yr heddlu, darllenwch dudalennau 11-12 o erthygl Cymdeithas Comisiynywyr yr Heddlu a Throsedd yma: “PCCs Making a Difference Alcohol and Drugs in Focus”.