Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu angen eich barn chi
Datblygu gwasanaethau sy’n helpu pobl agored i niwed a chymunedau sydd wedi’u heffeithio gan drosedd ac anhrefn yn ardal Dyfed-Powys
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Dyfed-Powys yn paratoi Asesiad o Anghenion er mwyn helpu i ddatblygu gwasanaethau a threfniadau yn y dyfodol sy’n cyfrannu at flaenoriaethau’r Cynllun Heddlu a Throseddu:
1. Cadw ein cymunedau’n ddiogel.
2. Diogelu’r rhai agored i niwed.
3. Amddiffyn ein cymunedau rhag bygythiadau difrifol.
4. Cysylltu gyda chymunedau.
Os ydych chi wedi defnyddio unrhyw wasanaethau a ariennir gan y CHTh, neu wedi’ch effeithio gan drosedd mewn unrhyw ffordd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yr ydym yn awyddus iawn i glywed am eich profiadau a’ch anghenion.
Er mwyn rhoi hyder ichi ynglŷn â’r arolwg, mae’n cael ei weinyddu gan ymchwilydd annibynnol, George Selvanera, ac mae’r arolwg yn gwbl anhysbys. Ni ofynnir am unrhyw wybodaeth bersonol a allai ddangos pwy ydych, ac ni chedwir unrhyw gyfeiriadau IP. Mae’n cymryd tua 5-10 munud i gwblhau’r arolwg, ac mae ar agor tan 1 Mawrth 2021.
Cymerwch ran os gwelwch chi’n dda. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â George ar dyfedpowysneedsassessment@gmail.com.
Survey monkey