Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn wedi dod a’r cerflun Angel Gyllyll i dref Aberystwyth yn ystod Mehefin 2022.

Mae’r Angel Gyllyll – sef Cerflun Cenedlaethol yn Erbyn Trais ac Ymosodiad – yn gerflun trawiadol iawn sydd wedi’i greu o dros 100,000 o gyllyll, gan Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yn Swydd Amwythig.

Mae’r cerflun wedi bod ar daith ledled y DU i godi ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll a sut mae’n effeithio ar gymunedau, teuluoedd ac unigolion.

Pryd?

1 – 29 Mehefin 2022

Roedd Seremoni Agoriadol ar fore 1 Mehefin, ac yna’r Seremoni Cloi a gwylnos yng ngolau cannwyll gyda'r nos ar 29 Mehefin.

Ble?

Sgwâr Llys y Brenin, Aberystwyth

Pam?

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn, wedi dod â’r Angel Gyllell i Aberystwyth i godi ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll a’r effaith y gall ei chael.

Roedd negeseuon atal, gwrth-drais a gwrth-ymosod allweddol yn cael eu rhannu trwy addysgu plant, pobl ifanc ac oedolion am yr effeithiau niweidiol y mae ymddygiad treisgar yn eu cael ar ein cymunedau. Wrth wneud hynny, rydym wedi gobeithio atal ymddygiad treisgar a dargyfeirio pobl oddi wrth drais fel ateb ar gyfer datrys anghydfodau.

Er bod cynnydd o 105% wedi bod mewn troseddau cyllyll yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf, gallwch fod yn dawel eich meddwl nad yw'r Angel Cyllell wedi dod i Aberystwyth oherwydd unrhyw broblem fawr gyda'r math hwn o drosedd yn yr ardal.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod troseddau cyllyll wedi digwydd yma yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - 26 o'r 67 o droseddau cyllyll yng Ngheredigion. Mae’n destun pryder bod nifer fach o’r rhain yn ymwneud â phobl dan amheuaeth o dan 18 oed.

Mae atal trosedd a dargyfeirio oddi wrth droseddu yn hanfodol. Gobeithiwn bod yr Angel Cyllyll yn ein cynorthwyo’n fawr i godi ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll tra’n creu anoddefgarwch eang tuag at ymddygiad treisgar yn ein cymunedau.

Rydym wedi gynnwys plant a phobl ifanc o bob rhan o Aberystwyth ac ardaloedd cyfagos mewn gwethgareddau yn ystod yr ymweliad, yn ogystal â annog grwpiau a sefydliadau cymunedol.

Am ragor o fanylion, ebostiwch: OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk