29 Meh 2022

Ar ddydd Mercher 29 Mehefin 2022, daeth cynrychiolwyr cymunedol, partneriaid lleol a’r awdurdodau ynghyd i ddathlu effaith ymweliad yr Angel Gyllell â’r dref yn ystod mis Mehefin, mewn seremoni gloi a gynhaliwyd yng Nghanolfan Arad Goch.

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn, wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Tref Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion yr Angel Cyllell i sgwâr Llys y Brenin, Aberystwyth ar ddechrau mis Mehefin, lle mae wedi bod yn sefyll am bedair wythnos fel atgof o effeithiau trais ac ymddygiad ymosodol.

Mae negeseuon atal, gwrth-drais a gwrth-ymosodedd allweddol wedi’u rhannu â’r gymuned leol yn ystod y mis drwy raglen o weithdai addysgiadol ac ymwybyddiaeth amrywiol a gynhaliwyd gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Heddlu Dyfed-Powys a sefydliadau ac elusennau partner.

Yn ystod y seremoni gloi ar y 29ain o Fehefin, cyflwynodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn dystysgrif i bartneriaid i gydnabod eu cefnogaeth yn hyrwyddo negeseuon ymddygiad gwrth-drais allweddol yn ystod y mis.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn: “Mae’r Angel Gyllell yn ein hatgoffa o effaith ddinistriol troseddau cyllyll, ac unrhyw fath o drais ac ymddygiad ymosodol yn ei gael ar deuluoedd a chymunedau.

“Rydym wedi cael cannoedd o bobl yn teithio i weld y cerflun eiconig ac ysbrydoledig yn ystod y mis ac yn cymryd rhan yn y gweithgareddau a’r digwyddiadau sydd wedi digwydd fel rhan o’u hymweliad â’r dref.

“Mae atal trosedd a dargyfeirio oddi wrth droseddu yn hanfodol. Gobeithiwn y bydd yr Angel Cyllell yn cael effaith barhaol ar y gymuned leol yn Aberystwyth ac rwy’n hyderus ei fod wedi creu anoddefiad eang i ymddygiad treisgar o fewn ein cymunedau.

“Mae’r adborth wedi bod yn wych, ac roedd yn wych gallu cydnabod a diolch i’r holl bartneriaid sydd wedi ein cefnogi yn ystod y mis yn y seremoni gloi, a chyflwyno tystysgrif i bob un ohonynt – diolch!”

Dywedodd Uwcharolygydd Heddlu Dyfed-Powys o Geredgion, Ross Evans, “Rydym yn falch o fod wedi cael y cyfle i groesawu’r Angel Gyllell i Aberystwyth eleni. Er nad ydym yn ystyried bod gennym broblem troseddau cyllyll yn y sir, rydym yn awyddus i’w chadw felly. Mae gan yr Angel y gallu i dynnu pobl i mewn a chymryd eiliad i fyfyrio -  sy'n eithaf pwerus. Mae hyn wedi ein helpu i ddechrau llawer o sgyrsiau cadarnhaol gyda phobl am blismona a diogelwch y cyhoedd. Rwy'n credu ei fod wedi ein helpu i gynyddu'r ymddiriedaeth a'r hyder yn eich heddlu lleol ac asiantaethau partner. Hoffwn ddiolch i bawb yn y dref am eu cefnogaeth yn ystod y mis. Diolch hefyd i'r cerflunwyr a'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd."

Dywedodd Zoe Monk, sy’n swyddog o fewn tîm INTACT, sef rhaglen Heddlu Dyfed Powys ar gyfer mynd i’r afael â Thrais Difrifol a Throseddau Cyfundrefnol: “Roedd y seremoni gloi yn ddathliad o lwyddiant ymgysylltiad Yr Angel Gyllell tra yn ardal Aberystwyth. Mae wedi bod yn ased enfawr yn lleol tra yn y dref, a gafodd ei ddathlu gyda’r gwahanol asiantaethau a phartneriaid a gymerodd ran i helpu i gefnogi ein cymunedau.

“Amlygwyd y llwyddiant yn y seremoni gloi ac roedd yn ddiweddglo hyfryd i bedair wythnos ysbrydoledig ac addysgiadol yn cynnal yr Angel Cyllell – Bendigedig!”

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

Gruff Ifan

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.police.uk