09 Gor 2021

Mae'n ymddangos y bydd ardaloedd Elli 2 a Tyisha 2 yng nghanol tref Llanelli yn cael eu gwneud yn fwy diogel i drigolion a busnesau yn dilyn cais llwyddiannus am arian pellach gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn.

Gwnaethpwyd y cais i'r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel am bron i £90,000 ym mis Mawrth a'i gymeradwyo gan y Swyddfa Gartref ym mis Mehefin.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu dau Warden Cymunedol, gwelliannau amgylcheddol megis cynyddu goleuadau stryd yn yr ardal, prynu Pecynnau DNA Selecta a offer cofrestru beiciau ar gyfer trigolion lleol yn ogystal a cynllun grant bach i grwpiau cymunedol ac elusennau, i redeg eu prosiectau eu hunain.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn eisoes wedi sicrhau £195,673 o Gronfa Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref, yn ôl yn 2020, i weithio gyda phartneriaid diogelwch cymunedol lleol yn Sir Gaerfyrddin i fynd i’r afael â throseddu yn yr ardal, ac yn ddiweddar cyfarfu â’r Tîm Plismona Cymdogaeth lleol i weld effaith y buddsoddiad hyd yma.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn; “Roedd hi’n wych cael bod lawr gyda’r Tîm Plismona Bro lleol yn Llanelli yn cefnogi eu gwaith yn ddiweddar yn dosbarthu rhai o’r Pecynnau Atal Troseddu a brynwyd fel rhan o’r cais llwyddiannus cyntaf I’r Gronfa Strydoedd Diogel.

“Yn bennaf, bydd y cyllid hwn yn lleihau troseddu trwy atal y cyfle i ladradau ddigwydd ar y strydoedd. Bydd y gwelliannau amgylcheddol fel goleuadau stryd ychwanegol er enghraifft nid yn unig yn atal ymddygiad troseddol ond hefyd yn gwella diogelwch i bawb yn y gymuned.

“Bydd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn ategu’r buddsoddiad sylweddol rydym eisoes wedi’i wneud i atal troseddu yn yr ardal a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gwneud i bobl deimlo’n anniogel.”

Hyd yn hyn, o fewn y fenter gyfan, mae 143 o aelwydydd wedi derbyn offer atal trais ychwanegol. Bydd ymdrechion yn parhau trwy gydol mis Gorffennaf, gyda'r Tîm Plismona Bro lleol ar hyn o bryd yn gweithio gyda Wardeiniaid Cymunedol Tyisha, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (Tîm Diogelwch Tân Cymunedol) a Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin i sicrhau bod holl drigolion yr ardal yn cael cynnig y gefnogaeth sydd ei hangen trwy y fenter.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Tref Llanelli, y Cynghorydd Shahana Najmi: “Mae'n newyddion cadarnhaol iawn bod yr ail flwyddyn o gyllid strydoedd mwy diogel wedi'i sicrhau ar gyfer ardaloedd Elli 2 a Tyisha 2.

“Cwblhawyd llawer iawn o waith trwy gyllid y flwyddyn gyntaf a bydd y datblygiadau a fydd yn bosibl yn ystod yr ail flwyddyn yn helpu i wneud yr ardal yn lle mwy diogel i drigolion a busnesau lleol.

“Mae Cyngor Tref Llanelli yn falch o fod yn bartner allweddol i’r prosiect ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd i barhau i gyflawni’r gwelliannau a gynlluniwyd.”

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan@dyfed-powys.pnn.police.uk

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn gyda Swyddogion a Wardeiniaid lleol yn ymweld â thrigolion yng nghanol tref Llanelli fel rhan o'r menter Strydoedd Mwy Diogel.

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn gyda Swyddogion a Wardeiniaid lleol yn ymweld â thrigolion yng nghanol tref Llanelli fel rhan o'r menter Strydoedd Mwy Diogel.