15 Maw 2019

Y gwaith o osod camerâu TCC yn y Drenewydd wedi cychwyn yr wythnos hon

 

Yr wythnos hon, cychwynnodd y gwaith o osod saith camera uwch-dechnoleg newydd yn y Drenewydd.

 

Mae’r contractwr, Baydale Control Systems Cyf, wedi dechrau gosod y camerâu yn y saith lleoliad a nodwyd drwy ddadansoddi patrymau troseddu. 

 

Mae gosod y camerâu hyn yn rhan o addewid etholiad allweddol Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, i ail-fuddsoddi mewn system TCC  mewn mannau cyhoeddus. Mae dros 120 o gamerâu’n cael eu gosod mewn 17 tref ar draws yr ardal heddlu, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

 

Dywedodd Mr Llywelyn: “Gwn fod y Drenewydd wedi galw’n daer am y system TCC, sy’n cael ei rheoli gan yr heddlu, ac rwyf wrth fy modd fod gwaith wedi cychwyn yno. Mae prosiect o’r natur hwn yn gymhleth ac yn ddyrys iawn. Mae’r Tîm Prosiect TCC yn gweithio’n galed i sicrhau fod y prosiect yn mynd rhagddo mor gyflym â phosibl. Rwy’n gobeithio y bydd trigolion y Drenewydd yn elwa o’r isadeiledd newydd ar ôl iddo gael ei gwblhau.”

 

Dywedodd Comander Powys, yr Uwch-arolygydd Jon Cummins: “Mae’r ffaith bod y saith camera hyn yn cael eu gosod ac yn mynd i fod yn recordio yn newyddion gwych ar gyfer gogledd Powys. Byddant yn cynorthwyo â phlismona’r ardal leol, ac fe allant helpu i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed, atal trosedd a darparu tystiolaeth ar gyfer unrhyw weithdrefnau troseddol.”

 

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiect TCC yma. (https://bit.ly/2ntpVlU)